Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Jack

Jack yn pigo sbaner

Fe wnaeth cynghorydd gyrfa Jack ei helpu i wneud cais am gwrs mecaneg yn y coleg.

Nid oedd Jack, 15 oed, o Wrecsam, yn siŵr pa gwrs yr oedd eisiau ei wneud yn y coleg.

Ceisio cymorth

Trefnodd ysgol Jack gyflwyniad gyda Ffion, cynghorydd gyrfa. Wedi hynny, cynhaliodd Ffion gyfarfodydd unigol gyda phob myfyriwr i’w helpu i archwilio eu diddordebau a’u hopsiynau ar ôl gadael yr ysgol.

Yn ystod ei gyfarfod â Ffion, bu Jack yn trafod ei ddiddordeb mewn ceir a soniodd am ei ADHD, awtistiaeth a dyspracsia.

Dywedodd Jack: “Gwnaeth Ffion y sesiynau’n fyr i mi oherwydd mae pethau eraill yn fy sylw’n hawdd felly roeddwn i’n gwerthfawrogi hynny.”

Archwilio opsiynau

I ddechrau, edrychon nhw ar gwrs yn ymwneud â gweithgareddau awyr agored yng Ngholeg Cambria. Ond, ar ôl mynychu noson agored, roedd Jack yn teimlo'n ansicr am y llwybr hwn.

Esboniodd Jack: “Dywedais wrth Ffion nad oeddwn 100% yn siŵr, a dywedodd nad oedd yn rhaid i mi ei wneud. Gofynnodd a oedd yna gyrsiau eraill yr hoffwn iddi ymchwilio iddyn nhw.” 

Mynegodd Jack ei ddiddordeb mewn peirianneg a mecaneg. Helpodd Ffion ef i ddod o hyd i gwrs mecaneg addas mewn coleg lleol.

Ychwanegodd Jack: “Roedd Ffion yn wych. Mwynheais y sesiynau gyda hi, ac fe helpodd hi fi yn fawr. Roedd hi’n berson neis iawn i siarad â hi.”

Edrych ymlaen

Gyda chymorth Ffion, gwnaeth Jack gais am y cwrs mecaneg.

Enillodd y graddau TGAU yr oedd eu hangen arno a chadarnhawyd ei le ar y cwrs.

Dechreuodd Jack hefyd ar brofiad gwaith mewn gweithdy mecanig dros yr haf.

Dywedodd Jack: “Rwy’n caru bywyd coleg hyd yn hyn. Mae gen i swydd ran amser â thâl hyd yn oed mewn bwyty pizza lleol ar y penwythnos.

“Rwy’n teimlo’n hyderus iawn am fy nyfodol nawr ac yn llawn cyffro.”

Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.


Archwilio

Cysylltu â ni

Rydym yn cynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb mewn canolfannau gyrfa, llyfrgelloedd, ysgolion, colegau a lleoliadau cymunedol.

Gallwn hefyd weithio gyda chi a'ch plentyn drwy sgwrs ar-lein, galwad fideo neu dros y ffôn.