Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Jacqui Gower

Jacqui Gower o JCP Solicitors yn derbyn ei gwobr gan y cyflwynydd Huw Stephens a Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru

Mae gan Jacqui Gower a Chyfreithwyr JCP bartneriaeth hirsefydlog gyda Gyrfa Cymru. Maent wedi cefnogi cannoedd o ddisgyblion yn Abertawe i ddysgu am yrfaoedd.

Maent wedi meithrin partneriaethau gydag ysgolion lleol, sef Ysgol Gyfun Gellifedw ac Ysgol Gyfun Pontarddulais. Jacqui yw'r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol. Mae hi'n trefnu gweithgareddau gyrfaoedd wedi'u cynllunio o amgylch anghenion penodol yr ysgolion.

Partneriaid Gwerthfawr Ysgolion

Mae Jacqui a'r cwmni wedi cymryd cam arall i gefnogi'r gwaith o ddysgu am yrfaoedd. Gwnaethant gofrestru fel Partneriaid Gwerthfawr Ysgolion ar gyfer ysgolion Gellifedw a Phontarddulais.

Mae Jacqui bob amser yn chwilio am ffyrdd o ddatblygu gweithgareddau a chryfhau'r cysylltiadau rhwng y busnes a'r ysgolion.

Mae enghreifftiau o'r math o weithgareddau yn cynnwys y canlynol:

  • Pecyn sgiliau cyflogadwyedd
  • Ffug gyfweliadau a sesiynau adborth
  • Sesiynau ar sut i gymhwyso pynciau fel astudiaethau crefyddol o fewn diwydiant y gyfraith
  • Sgyrsiau mewn gwasanaethau
  • Gweithdai CV a gwneud cais

Darparu'r elfen bersonol

Mae Jacqui hefyd yn rhoi mewnbwn mwy personol. Mae hi wedi ymuno â phrosiect cyn-ddisgyblion Gyrfa Cymru. Fel rhan o hyn, mae Jacqui yn darparu cymorth gyrfaoedd i ddisgyblion yn ei hen ysgol. Recordiodd flog fideo am daith ei gyrfa.

Mae Jacqui hefyd wedi cyflwyno sesiwn ffocws i helpu disgyblion i ddeall rhagfarn ddiarwybod. Cafodd y sesiwn dderbyniad da gan ddisgyblion ac athrawon.

Ennill gwobr

Cyflwynodd Gyrfa Cymru wobr i Jacqui ym mis Tachwedd 2022.

Dyfarnwyd y wobr am Gyfraniad Eithriadol gan Unigolyn iddi. Roedd hyn yn cydnabod ei chyfraniad personol wrth gefnogi'r gwaith o ddysgu am yrfaoedd. Dywedodd Jacqui: “Mae’n deimlad anhygoel i ennill y wobr.

“Rwy’n gweithio gydag ysgolion fel rhan o fy rôl Adnoddau Dynol. Fy ngwaith i yw edrych ar brinder sgiliau ar gyfer y dyfodol a thalent sy’n dod i’r amlwg.

“Rwy hefyd yn hoffi mynd i gwrdd â myfyrwyr a gweld y myfyrwyr gwych sydd gennym yng Nghymru.

“Rwy’n gweld bod myfyrwyr yn aml yn meddwl mai’r unig lwybr i weithio mewn cwmni cyfreithiol yw mynd i’r brifysgol a gwneud cwrs ôl-raddedig. Ond mae yna lwyth o wahanol lwybrau i gael mynediad at waith gyda chwmni cyfreithiol. Rwy wrth fy modd yn mynd allan i ysgolion a rhoi gwybod iddyn nhw am yr holl rolau gwahanol y gallan nhw eu cael mewn cwmni cyfreithiol a sut y gallan nhw eu hennill."

Mae cynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru, Andrea John, yn gweithio gyda Jacqui. Dywedodd Andrea: “Rwy’n falch iawn o weld Jacqui yn cael y wobr hon.

“Mae Jacqui bob amser yn cymryd y cam ychwanegol. Mae hi'n angerddol am gael effaith gadarnhaol.

“Fel partner gwerthfawr i Gyrfa Cymru, mae Jacqui yn haeddu pob cydnabyddiaeth. Rydyn ni mor ddiolchgar am ei hymrwymiad i gefnogi pobl ifanc.”