Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Litegreen

David Walker a Shanone Towers o Litegreen yn derbyn eu gwobr gan y cyflwynydd Huw Stephens a Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru

Mae Litegreen yn gwmni effeithlonrwydd ynni wedi'i leoli yn Wrecsam. Mae David Walker a'i bartner busnes, Shanone Towers, yn angerddol dros gefnogi pobl ifanc yr ardal.

Cefnogi disgyblion presennol

Mae Litegreen wedi cefnogi llawer o ddigwyddiadau yn Ysgol y Grango.

Mae’r rhain wedi cynnwys:

  • Gweithdy sgiliau cyflogadwyedd
  • Rhwydweithio cyflymder y cyflogwr
  • Her menter
  • Ffug gyfweliadau

Mae David, cyfarwyddwr y cwmni, yn gyn-ddisgybl. Mae wedi rhannu taith ei yrfa gyda disgyblion presennol.

Mae Litegreen hefyd wedi cefnogi ffug gyfweliadau mewn ysgolion eraill yn Wrecsam a Sir y Fflint.

Litegreen yn meithrin prosiectau gwyrdd a chymorth arall

Mae'r cwmni hefyd wedi cefnogi'r ysgol gyda'u gardd meithrin. Mae’r ardd yn darparu gofod dysgu effeithiol ar gyfer disgyblion bregus yr ysgol.

Maent wedi cynnig cymorth i'r ysgol i gael mynediad at grantiau i gyllido prosiectau. Maent yn cefnogi'r athrawon i gyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau cymunedol. Byddai'r holl gyfleoedd hyn yn helpu i ychwanegu at eu hardaloedd awyr agored.

Ennill gwobr

Cyflwynodd Gyrfa Cymru Wobr Partner Gwerthfawr i Litegreen ym mis Tachwedd 2022.

Dywedodd Shanone: “Rydyn ni’n falch iawn o ennill y wobr hon – roedd hyd yn oed yr enwebiad yn rhoi boddhad mawr i ni. Pan fydd rhywun arall yn eich enwebu mae'n cael effaith wahanol arnoch chi.

“Rydyn ni’n cymryd hyn i gyd wir o ddifrif. Roeddwn i'n arfer hyfforddi fel athrawes. Pan wnaethom ni sefydlu Litegreen bum mlynedd yn ôl, roedd ar yr amod y gallwn i barhau i gadw cysylltiad â gwaith ieuenctid.”

Ychwanegodd David:

Wrth eistedd i lawr am brin 10 i 15 munud gyda’r bobl ifanc a chynnal ffug gyfweliad, neu siarad â nhw, rydych chi'n gallu gweld pytiau bach o sgiliau a rhai o'r pethau y gallwch chi eu tynnu allan ohonyn nhw. Rwy’n hoffi meddwl eu bod nhw'n gadael gydag ychydig bach yn fwy o hyder yn eu sgiliau nhw eu hunain a’r pethau y gallan nhw eu gwneud.”

Mae cynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru, Lesley Lloyd, yn gweithio gyda Litegreen ac Ysgol y Grango. Dywedodd Lesley: “Mae Litegreen yn llawn haeddu’r wobr hon.

“Mae David a Shanone wedi rhoi cymaint o gefnogaeth i ddisgyblion Ysgol y Grango. Mae’n amlwg pa mor angerddol ydyn nhw am helpu pobl ifanc yn yr ardal leol.

“Maen nhw’n gwneud eu gorau i helpu lle gallan nhw, ac maen nhw’n annog eraill i wneud yr un peth. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda phawb yn Litegreen ac edrychaf ymlaen at barhau i wneud mwy gyda nhw.”