Gweld rhestr o ddarparwyr hyfforddiant yng Nghymru.
Mae prosesau ymgeisio yn amrywio gan ddibynnu ar y math o hyfforddiant rydych chi'n chwilio amdano:
- I wneud cais ar gyfer Twf Swyddi Cymru+ bydd angen i chi gysylltu â ni i drefnu apwyntiad gyda chynghorydd gyrfa
- I wneud cais am brentisiaeth a hysbysebir gan ddarparwr, cysylltwch â'r darparydd hyfforddiant yn uniongyrchol. Gallant hefyd hysbysebu eu cyfleoedd prentisiaeth ar y dudalen Chwilio am Brentisiaethau
- Os ydych yn gyflogwr sy'n chwilio am ddarparydd hyfforddiant, cysylltwch â'r darparwydd hyfforddiant yn uniongyrchol
Archwilio

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra byddwch chi’n gweithio ac yn ennill cyflog. Chwiliwch am brentisiaethau yn eich ardal chi, dysgwch am brentisiaethau a lefelau prentisiaeth, a mynnwch gyngor ar sut i wneud cais.

Wyt ti rhwng 16-19 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.