Mae Gyrfa Cymru yn cydnabod, fel darparwr gwasanaeth cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd i bob oed (gan gynnwys lleoliadau mewn cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg i bobl ifanc) ac fel sefydliad sy'n hwyluso cysylltiadau busnes yng Nghymru, ei fod yn cael effaith ar yr amgylchedd.
Byddwn yn gosod amcanion i ymgymryd â chymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel a byddwn yn defnyddio ein hadnoddau'n effeithlon ac yn gymesur gan gynnwys ystyried yr effaith a gawn ar y newid yn yr hinsawdd a'r angen i ddiogelu'r Amgylchedd.
Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldebau amgylcheddol corfforaethol a byddwn yn eu cyflawni drwy leihau ein hôl troed amgylcheddol a diogelu'r amgylchedd, drwy ddileu unrhyw ffynonellau llygredd, a gweithio i leihau unrhyw effaith andwyol ar yr amgylchedd yn y ffordd rydym yn gweithredu. Bydd ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn ymgorffori amcanion mwy hirdymor er mwyn cyfrannu at ffyniant Cymru yn y tymor hir. Mae'r uwch reolwyr wedi ymrwymo i weithredu'r polisi hwn.
Cwmpas
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob agwedd ar weithrediadau'r Cwmni, ac eithrio'r rhai sy'n cael eu cynnal gan drydydd parti gan gynnwys gweithrediad y Wefan Gyrfaoedd (a gynhelir yn allanol), a chaiff ei gyfleu i'r holl staff sy'n gweithio i'r cwmni, Aelodau'r Bwrdd a Chyflenwyr drwy ein gwefan. Bydd y polisi'n berthnasol i bob swyddfa sydd dan ein rheolaeth.
Rydym wedi ymrwymo i ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 drwy:
- Sicrhau bod pob cam yn cael ei gymryd i ddiogelu'r amgylchedd, ac i ddileu pob ffynhonnell o lygredd o'n gweithrediadau. Wrth wneud hynny, byddwn yn cydymffurfio'n llawn â'r holl ddeddfwriaeth amgylcheddol a'r rhwymedigaethau cydymffurfio perthnasol drwy gynnal cofrestr amgylcheddol. Byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol a lleihau'r defnydd o ddŵr ac allyriadau drwy ddefnyddio fframwaith datblygu cynaliadwy
- Lleihau ein hôl troed carbon a lleihau ein heffaith andwyol ar yr amgylchedd yn y ffordd rydym yn gweithredu drwy wneud y canlynol:
- Cynnal adolygiad rheolaidd o'n heffeithiau amgylcheddol yn flynyddol o leiaf a chynhyrchu cynllun gwella trosfwaol a chynllun yn seiliedig ar swyddfeydd unigol ar sicrhau gostyngiad mewn allyriadau CO2 a gwella bioamrywiaeth
- Monitro ein defnydd o ynni, dŵr a deunyddiau traul a gosod targedau i’w lleihau
- Darparu hyfforddiant i bob aelod staff ar ymwybyddiaeth amgylcheddol lle y mae hynny'n briodol
- Llunio canllawiau ar sut i ddileu a/neu leihau ein gwastraff a gwella ein gwaith o ailgylchu gwastraff er mwyn bodloni ein dyletswydd hierarchaeth gwastraff
- Cefnogi staff i ddeall sut i ddefnyddio TGCh i leihau milltiroedd busnes a pharhau i annog pobl i rannu ceir ar gyfer teithio busnes
- Gosod targedau blynyddol i leihau teithio busnes a sicrhau bod gwybodaeth ar gael am argaeledd ac addasrwydd trafnidiaeth gyhoeddus
- Ceisio gwella perfformiad amgylcheddol yn barhaus drwy reoli System Rheoli Amgylcheddol er mwyn monitro ac adolygu ein perfformiad
- Codi ymwybyddiaeth staff, annog eu cyfranogiad mewn materion amgylcheddol a cheisio datblygu syniadau a mentrau newydd ar y cyd, gan gynnwys llunio cod eco i’r cwmni cyfan a fydd yn ystyried unrhyw arferion gwaith newydd
- Sicrhau bod ein Polisi Amgylcheddol ar gael i'r cyhoedd
Adolygu
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol neu'n gynt os bydd unrhyw newidiadau sylweddol i weithgareddau neu weithrediadau busnes y Cwmni.
EM001 Argraffiad 11
Cymeradwywyd gan Nikki Lawrence 01/08/2024