Cyrsiau ar gyfer dylunio a chynllunio addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith (gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith) yn eich cwricwlwm.
Bydd yr holl sesiynau yn cael eu cyflwyno trwy Microsoft Teams.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch y tîm cwricwlwm.
Tymor yr Haf
Cyfarfod Rhwydwaith Cenedlaethol Gyrfaoedd a Phrofiadau Byd Gwaith (Cynradd)
Dyddiad: 18 Mehefin 2026
Amser: 1:00 tan 2:00 pm
Iaith: Saesneg neu Gymraeg
Ymunwch â'n Cyfarfodydd Rhwydwaith Cynradd i archwilio ffyrdd ymarferol o wreiddio Gyrfaoedd a Phrofiadau Byd Gwaith ar draws Cwricwlwm i Gymru. Bydd cyfle i gysylltu â Gyrfa Cymru, cyflogwyr, a chyd-ymarferwyr i rannu syniadau, cyrchu adnoddau a chefnogi dysgwyr i ddeall byd gwaith a’u cyfleoedd yn y dyfodol.
Mae wedi bod yn ddiddorol edrych ar y rhesymau dros addysg gyrfaoedd a chael syniadau ar sut y gallaf wella'r ddarpariaeth yn yr ysgol. Mae hefyd wedi bod yn ddefnyddiol gwrando ar yr hyn y mae ysgolion eraill wedi bod yn ei wneud a chael syniadau. Diolch i bawb a'i cyflwynodd!"
Archebu lle ar gyfer Cyfarfod Rhwydwaith Cenedlaethol (Cynradd) (MS Form)
Dyddiad Cau - 13 Mehefin 2026.
Dinas Gyrfaoedd
Dyddiad: 25 Mehefin 2026
Amser: 3:30 tan 4:30 pm
Iaith: Saesneg neu Gymraeg
Sesiwn ragarweiniol ar sut i wneud y gorau o Ddinas Gyrfaoedd, ein hadnodd dwyieithog a ddatblygwyd i gefnogi ysgolion cynradd i ymgorffori Gyrfaoedd a Phrofiadau Byd Gwaith ar draws y cwricwlwm mewn ffordd hwyliog, ddifyr a hawdd.
Adnodd gweledol gwych a fydd yn ddefnyddiol i'n dysgwyr."
Archebu lle ar gyfer Dinas Gyrfaoedd (MS Form)
Dyddiad Cau - 20 Mehefin 2026.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dysgwch am ein Gwobr Ansawdd newydd ar gyfer pob lleoliad gyda dysgwyr rhwng 3 a 16 oed.
Dysgu mwy am y cymhwyster achrededig hwn i athrawon ym mhob ysgol a lleoliad a gynhelir yng Nghymru.