Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Cymhwyster Arweinyddiaeth Gyrfaoedd Lefel 6

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am raglen hyfforddi Cymhwyster Arweinyddiaeth Gyrfaoedd Lefel 6 2026/27, neu os hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y tîm cwricwlwm. Bydd y broses ymgeisio yn agor o ddydd Gwener, 12 Mehefin.

Mae Gyrfa Cymru yn cynnig cymhwyser achrededig Lefel 6 mewn Arweinyddiaeth Gyrfaoedd i gynorthwyo ymarferwyr i ymgorffori addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith ar draws eu cwricwlwm.

Mae'r cymhwyster hwn yn addas i athrawon sydd â chyfrifoldeb am Addysg Gyrfaoedd a Phrofiad Cysylltiedig â Gwaith mewn awdurdodau lleol a ariennir:

  • Ysgolion cynradd
  • Ysgolion uwchradd
  • Ysgolion arbennig
  • Lleoliadau - er enghraifft Unedau Cyfeirio Disgyblion

Mae’r cwricwlwm i Gymru yn cyflwyno nifer o newidiadau, gan gynnwys rhoi gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith fel thema drawsgwricwlaidd. Mae angen i leoliadau ystyried y canllawiau statudol ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith a sicrhau bod gweithwyr addysg proffesiynol yn gallu gwireddu ac ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith ar draws eu cwricwlwm.

Mae'r Cymhwyster Arweinyddiaeth Gyrfaoedd Lefel 6 wedi'i gynllunio ar gyfer ymarferwyr ledled Cymru i ddarparu'r hyfforddiant i gefnogi gyda chynllunio, dylunio ac arwain gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith.

Mae’r dystysgrif mewn Arweinyddiaeth Gyrfaoedd yn cefnogi ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu a’r Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth sy’n cynnwys:

  • Addysgeg – cynllunio rhaglen addysg yrfaoedd sy’n cefnogi pob dysgwr i gyflawni ei ganlyniadau gorau
  • Arweinyddiaeth – mae’r arweinydd gyrfaoedd yn grymuso cydweithwyr i datblygu gweledigaeth cyfrannol ar gyfer gwireddu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn y Cwricwlwm i Gymru
  • Dysgu Proffesiynol – datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn tanategu ddatblygiad addysg gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith
  • Arloesi – sicrhau bod addysg gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn cael yr effaith fwyaf a gall fod yn flaengar
  • Cydweithio – gall gweithwyr proffesiynol gweithio’n agos gydag ymarferwyr eraill, yn eu hysgolion eu hunain ac mewn ysgolion eraill, i ddatblygu gwybodaeth ac arferion gorau

Sut y cyflawnir y cymhwyster?

Cyflwynir y cymhwyster yn ddigidol dros dri diwrnod a hanner, wedi'i wasgaru ar draws y flwyddyn academaidd. Yn ogystal, ceir cyflwyniad awr o hyd (wedi'i gyflwyno'n ddigidol). Mae’r cymhwyster yn cynnwys yr unedau Fframwaith Credydau a Chymwysterau Lefel 6 canlynol:

  • Arwain a rheoli gwaith datblygu gyrfaoedd mewn sefydliad
  • Gwella gwaith datblygu gyrfaoedd mewn yn barhaus mewn sefydliad
  • Cynllunio a dylunio rhaglenni dysgu sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd

Gweler manylion pellach y tair uned o’r Diploma mewn Cyfarwyddyd a Datblygiad Gyrfa Lefel 6 gan y corff dyfarnu Oxford Cambridge and RSA (OCR). (Dolen Saesneg)

Adborth gan garfanau blaenorol

Gwrandewch ar rai o’r carfanau blaenorol yn siarad am eu profiadau o’r rhaglen Arweinyddiaeth Gyrfaoedd yn y ffilm fer hon ar Hwb.

Roedd cwblhau'r cymhwyster Arweinyddiaeth Gyrfaoedd Lefel 6 wedi rhoi ffocws clir i mi, gan fy helpu i flaenoriaethu'r gweithgareddau sy'n cael yr effaith fwyaf ar ddisgyblion.  Mae wedi cryfhau fy ngallu i gefnogi cydweithwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth eu hunain o GPCG a sut i'w ymgorffori'n ystyrlon yn eu gwersi.  Mae'r cymhwyster hefyd wedi rhoi'r hyder i mi arwain mentrau ysgol gyfan, gan sicrhau bod addysg gyrfaoedd yn gyfrifoldeb sy’n cael ei rannu ac yn rhan greiddiol o'n diwylliant ysgol.'

Lisa Shearer, Ysgol St Cyres

Mae ymgymryd â chymhwyster Arweinyddiaeth Gyrfaoedd Lefel 6 eleni wedi rhoi sylfaen wych i mi a'r hyder i gwblhau Cam 1 Dyfarniad Ansawdd Gyrfa Cymru (y cynllun peilot) yn llwyddiannus. Mae'r cwrs L6 wedi bod o fudd proffesiynol i mi drwy fy annog i gynnal ymchwil academaidd ar arferion arweinyddiaeth gyrfaoedd, fy helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o GPCG, gwella fy nealltwriaeth o 'beth, pam, pwy a sut' o ran GPCG yn fy ysgol a rhoi'r fframwaith i mi fyfyrio ar sut rwy'n adolygu, monitro a gwerthuso’r ddarpariaeth gyrfaoedd.'

Wendy Thomas-Davies, Ysgol Bro Dinefwr

O safbwynt anghenion addysgol arbennig, mae'r dystysgrif arweinyddiaeth Gyrfa wedi fy ngalluogi i ailfeddwl am yrfaoedd a phrofiadau byd gwaith a sut mae'n cael ei gyflwyno yn ein lleoliad. Mae wedi fy annog i feddwl y tu allan i'r bocs a chyflwyno'r thema drawsbynciol trwy dasgau cyfoethog effeithiol yn seiliedig ar ddysgwyr unigol a'u dymuniadau, eu hanghenion a'u dyheadau. Mae datblygu model y gellir ei addasu ar gyfer pob athro a disgybl wedi golygu bod modd addysgu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith o 3-19 oed.'

Ceryn Thomas, Ysgol Greenfield School

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Digwyddiadau dysgu proffesiynol

Dewch o hyd i wybodaeth a chofrestru ar gyfer digwyddiadau dysgu proffesiynol ar gyfer addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith.

Gyrfaoedd yn y cwricwlwm

Dysgwch am addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn y Cwricwlwm i Gymru a chael gafael ar offer a gwybodaeth i gefnogi eich gwaith cynllunio.

Diweddariadau e-bost i ysgolion

Dysgwch sut y gallwch dderbyn newyddion a diweddariadau am addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith a gwaith ein tîm cwricwlwm.