Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Diweddariadau e-bost i ysgolion

Derbyn diweddariadau ac adnoddau am addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn syth i'ch mewnflwch.

Yng Nghwricwlwm i Gymru, mae gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn thema drawsbynciol ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad ac ar gyfer pob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed. Mae ein tîm cwricwlwm gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn darparu gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth i helpu athrawon gyda hyn.

Llenwch y ffurflen fer yma i dderbyn ein cylchlythyr a'n diweddariadau e-bost. Mae ein e-byst yn berthnasol i athrawon ym mhob ysgol a lleoliad.

Mae ein cylchlythyrau tymhorol yn diweddaru ysgolion ar:

  • Ein gwaith
  • Prosiectau cyfredol
  • Newyddion gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith
  • Gwybodaeth ac adnoddau

Rydym hefyd yn anfon diweddariadau e-bost i roi gwybod i chi am:

  • Offer ac adnoddau newydd
  • Sesiynau a gweithdai dysgu proffesiynol ar-lein
  • Prosiectau newydd yn cysylltu dysgwyr ac athrawon â chyflogwyr a byd gwaith

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gyrfaoedd yn y cwricwlwm

Dysgwch am addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn y Cwricwlwm i Gymru a chael gafael ar offer a gwybodaeth i gefnogi eich gwaith cynllunio.