Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Pecyn cymorth addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith

Mae addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn thema drawsbynciol yn y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer plant rhwng 3 ac 16 oed. Disgwylir i ysgolion a lleoliadau ddilyn y Canllawiau Statudol ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith wrth ddatblygu eu cwricwlwm.

Beth yw pecyn cymorth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith?

Mae pecyn cymorth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn adnodd i gefnogi pob athro, uwch dimau arwain a'r rhai sy'n cefnogi pobl ifanc, i wireddu ac ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn eu hysgolion a'u lleoliadau. Fe'i datblygwyd gan y Sefydliad Datblygu Gyrfa (CDI) a Gyrfa Cymru, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a grŵp llywio strategol o randdeiliaid allweddol.

Mae'r adnodd yn cynnwys pecyn cymorth a phecyn adnoddau sy'n darparu gwybodaeth ac adnoddau a fydd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso darpariaeth addysg gyrfaoedd.

Pecyn cymorth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Pecyn cymorth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith - Diweddarwyd 2024 Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys adrannau o'r enw:

  • Gwireddu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn y Cwricwlwm i Gymru
  • Ansawdd addysg gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith
  • Rheoli hunanasesiad gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith

Pecyn adnoddau gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Pecyn adnoddau gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith - Diweddarwyd 2024 Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..

Bydd defnyddio'r wybodaeth a'r templedi yn y pecyn adnoddau yn eich cefnogi chi i:

  • Greu gweledigaeth ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn eich ysgol neu leoliad
  • Deall rolau athrawon mewn gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith a rôl yr Arweinydd Gyrfa
  • Adeiladu rhwydwaith gyda chyflogwyr a rhanddeiliaid
  • Creu diwylliant o hunanwella ac asesu
  • Cyrchu adnoddau defnyddiol

Cwestiynau cyffredin

Beth yw pecyn cymorth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith?

Mae pecyn cymorth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn adnodd digidol sy'n darparu gwybodaeth ddefnyddiol ac adnoddau ymarferol i gefnogi eich ysgol neu leoliad i wireddu addysg gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn llwyddiannus fel thema drawsbynciol. Mae'n eich helpu chi i ddarparu addysg gyrfaoedd ystyrlon i ddysgwyr gydol eu haddysg.

I bwy mae'r pecyn cymorth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith?

Mae Canllawiau Statudol yn nodi bod yn rhaid i bob athro, pennaeth a chorff llywodraethol roi sylw dyledus i yrfaoedd a phrofiadau byd gwaith wrth gynllunio, llunio a gweithredu'r cwricwlwm. Bydd pecyn cymorth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn ystyrlon i bob athro, ac unrhyw un sy'n cefnogi pobl ifanc mewn cyd-destun addysgol. Fodd bynnag, efallai y bydd gan Arweinwyr Gyrfa a phenaethiaid ddiddordeb arbennig yn y wybodaeth, y fframwaith a'r adnoddau a gynigir.

Sut gall ysgolion ddefnyddio'r pecyn cymorth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith?

Mae'r pecyn cymorth yn cynnig fframwaith nad yw'n orchmynnol sy'n darparu proses ar gyfer datblygu'r dull gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn eich ysgol neu leoliad. Mae'n cynnig cyngor, ysbrydoliaeth ac adnoddau. Dylid ei ystyried yn adnodd a all roi cymorth defnyddiol ac ymarferol i chi wrth nodi'r weledigaeth a'r strategaeth ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith, ac yn ystod camau cynllunio a llunio’r cwricwlwm. Mae'r pecyn cymorth hefyd yn cynnwys cyngor ymarferol ar nodi a gwerthuso effaith cwricwlwm gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith eich ysgol.

A oes rhaid i ysgolion ddefnyddio'r pecyn cymorth?

Mae pecyn cymorth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn adnodd dewisol sydd wedi'i gynllunio i gefnogi'r gwaith o gynllunio a datblygu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith fel thema drawsbynciol. Y gobaith yw, drwy ddefnyddio hyn, y bydd eich ysgol neu leoliad yn gallu gwireddu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn llwyddiannus yn eich cwricwlwm a darparu addysg gyrfaoedd ystyrlon i ddysgwyr.