Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Scooby's Autos

David Pearce o Scooby's Autos yn derbyn ei wobr gan y cyflwynydd Huw Stephens a Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru

Mae David Pearce, perchennog Scooby's Autos, wedi cael effaith gadarnhaol aruthrol ar bobl ifanc. Mae'r cwmni wedi darparu cyfleoedd gwych trwy gynnig profiad gwaith

Doedd gan y person ifanc cyntaf i gael lleoliad yn Scooby's ddim diddordeb yn yr ysgol. Gwnaeth David ei wahodd i gael profiad gwaith yn y busnes. Dangosodd iddo beth i'w wneud, sut i'w wneud a'i annog i roi cynnig ar bethau ar ei ben ei hun.

Darparodd Scooby's Autos le diogel i'r person ifanc ddysgu. Aeth y disgybl ymlaen i wneud dau ddiwrnod yr wythnos yn y lleoliad a chofrestrodd ar gwrs coleg. Roedd David yn gefnogol iawn o'r cam hwn. Roedd hyd yn oed wedi ei helpu gyda'r cais.

Symud ymlaen i brentisiaeth

Sicrhaodd David fod y disgybl yn datblygu drwy gael y gymysgedd gywir o ddysgu trwy arsylwi ac ymarfer drosto ei hun. Trwy'r dysgu hwn, mae'r disgybl wedi gallu datblygu sgiliau arbennig, ac yna cyflawni tasgau ar ei ben ei hun.

Gwnaeth y person ifanc mor dda fel ei fod bellach yn cwblhau prentisiaeth yn Scooby's. Mae bellach yn gallu cefnogi eraill sy'n ymgymryd â phrofiad gwaith ar y safle. Mae hyn yn cynnwys disgybl blwyddyn 10 o’i hen ysgol sydd wedi dechrau'n ddiweddar.

Ennill Gwobr

Cyflwynwyd Gwobr Partner Gwerthfawr i Scooby’s Autos gan Gyrfa Cymru ym mis Tachwedd 2022.

Dywedodd David: “Do’n i ddim yn disgwyl ennill y wobr, ond rwy'n falch iawn. Rydw i wedi ffonio'r person ifanc sy’n gwneud prentisiaeth gyda ni ac wedi dweud popeth wrtho fe amdano.

“Pan ddaeth Margo ata i a gofyn a fyddwn i'n ystyried rhoi profiad gwaith i ychydig o bobl ifanc oedd ddim yn mwynhau'r ysgol, dywedais i, ‘wel ro’n i’n un o’r plant hynny, felly dwi'n gwybod yn union sut maen nhw’n teimlo’.

“Mae’n waith caled bod yn fecanic, ac rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn iddyn nhw gael profiad go iawn o’r swydd a bywyd bob dydd yn y gwaith i weld ai dyna beth maen nhw eisiau ei wneud.”

Y peth pwysig yw rhoi cyfle iddyn nhw

Dywedodd cynghorydd cyswllt busnes Gyrfa Cymru, Margo Farbrace, sy’n gweithio’n agos gyda Scooby’s Autos: “Mae David bob amser yn hapus, yn gwenu ac yn groesawgar ac yn credu bod pawb yn haeddu cyfle.

“Mae’n cynnig amgylchedd diogel lle gall pobl ifanc ddysgu mwy am rôl mecanic a chael profiad o drefn arferol a bywyd byd gwaith.

“Mae lleoliadau profiad gwaith fel y rhain yn rhoi profiad amhrisiadwy i bobl ifanc, yn enwedig y rhai sy’n ei chael yn anodd mewn amgylchedd ysgol.”