Helpodd cymorth gyrfa Lowri i wneud dewis hyderus ynglŷn â'i chamau nesaf.
Derbyniodd Lowri, sydd bellach yn 23 oed ac yn byw yn Llanelli, gymorth gan Gyrfa Cymru gyntaf ar ôl cwblhau ei chwrs arlwyo Lefel 3. Doedd hi ddim yn siŵr beth i'w wneud nesaf.
Dywedodd Lowri, “Doeddwn i ddim yn siŵr a ddylwn i fynd i mewn i waith llawn amser neu ddilyn cwrs arall yn y coleg.”
Clywodd am Gyrfa Cymru drwy ei darlithwyr coleg. Fe wnaethon nhw ei rhoi mewn cysylltiad â Lara Bagagiolo, cynghorydd gyrfa sydd wedi'i lleoli ar y campws.
Rhoddodd Lara gymorth i Lowri i edrych ar ddau brif dewis, mynd yn ôl i'r coleg i ddilyn cwrs Teithio a Thwristiaeth Lefel 2 neu gael swydd amser llawn.
Gwneud penderfyniadau
Dywedodd Lowri, “Yn y cyfarfod cyntaf, fe wnaethon ni ystyried beth oedd fy opsiynau. Awgrymodd Lara i mi wneud rhestr o’r manteision a’r anfanteision i’m helpu i benderfynu beth fyddai’r dewis gorau i mi.”
Cwblhaodd Lowri y rhestr gartref a'i hanfon at Lara drwy e-bost. Yn eu cyfarfod dilynol, fe wnaethant drafod bob pwynt yn fanwl. Defnyddiodd Lara dechnegau delweddu hefyd i helpu Lowri i sylwi ar ei gwir deimladau ynghylch bob llwybr.
Drwy’r broses hon, sylweddolodd Lowri y byddai’n teimlo’n hapusach yn dychwelyd i’r coleg.
Dywedodd, “Es i i noson agored a siaradais â’r darlithwyr ym maes Teithio a Thwristiaeth i weld a oedd y cwrs yn addas i mi. Ar ôl hynny, penderfynais wneud cais am Lefel 2.”
Fe wnaeth Lara ei helpu i ddiweddaru ei CV hefyd, gan gynnwys ychwanegu ei phrofiad gwaith diweddar.
Edrych tua’r dyfodol
Mae Lowri bellach wedi cyrraedd diwedd ei chwrs ac mae'n canolbwyntio ar ei chamau nesaf. Mae hi'n teimlo'n fwy hyderus ynglŷn â'i nodau. Ar hyn o bryd, mae hi'n gwneud cais am brentisiaethau i ddod yn asiant teithio.
Dywedodd Lowri “Mae’r cymorth wedi dangos i mi y gallaf i osod nodau i mi fy hun ac edrych am y camau nesaf yn fy mywyd.”
Drwy gydol ei thaith, mae hi wedi gwerthfawrogi cefnogaeth barhaus Lara.
Dywedodd Lowri, “Mae wedi bod yn hyfryd gweithio gyda Lara. Mae hi mor gefnogol, ac os byddaf i’n ei gweld o gwmpas y coleg, gallaf bob amser gael sgwrs â hi. Mae hi'n unigolyn gwych i fod o'i chwmpas."
Mae ei chyngor i eraill yn syml: “Cysylltwch â Gyrfa Cymru ar unwaith. A thra byddwch chi'n aros am eich apwyntiad cyntaf, edrychwch ar wefan Gyrfa Cymru i weld pa gyfleoedd sydd ar gael.”
Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.
Cymorth i gynllunio eich gyrfa. Eich syniadau a'ch dewisiadau chi.
Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth