Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Cymorth Cyflogaeth

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael i'ch helpu chi i gael gwaith os ydych chi’n anabl neu os oes gennych chi gyflwr iechyd.

Mynediad at Waith

Gall Mynediad at Waith gynnig cymorth ariannol ac ymarferol i'ch helpu i gael gwaith neu i aros mewn gwaith. Bydd y cymorth yn seiliedig ar eich anghenion, er enghraifft grant i'ch helpu i fynd yn ôl ac ymlaen i'r gwaith a chymorth i reoli eich iechyd yn y gwaith.

Trwy Mynediad at Waith gallwch hefyd wneud cais i gael arian ar gyfer cymorth cyfathrebu mewn cyfweliad.

I gael cefnogaeth, rhaid i chi:

  • Fod gennych gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol neu anabledd sy'n golygu bod angen cymorth arnoch i wneud eich swydd neu i fynd yn ôl ag ymlaen i'r gwaith
  • Bod dros 16 oed
  • Byw yng Nghymru, Lloegr, neu'r Alban
  • Bod mewn swydd â thâl neu fod ar fin cychwyn neu ddychwelyd i un

Am y wybodaeth diweddaraf a rhagor o fanylion edrych ar Mynediad at Waith ar gov.uk.


Cyflogaeth â Chefnogaeth

Mae asiantaethau cyflogaeth â chymorth yn gweithio gyda phobl i'w helpu:

  • Ddod o hyd i waith
  • Dysgu'r sgiliau sydd eu hangen i wneud swydd
  • Setlo mewn swydd newydd
  • Dysgu sut i deithio i'r gwaith

Mae yna sawl sefydliad Cyflogaeth â Chefnogaeth ledled Cymru:

  • Agoriad Cyf, cefnogaeth hyfforddiant a chyflogaeth (Gogledd Cymru)
  • ELITE Supported Employment, darparydd cyflogaeth â chymorth arbenigol (De, Canolbarth a Gorllewin Cymru) (Dolen Saesneg yn unig)

Prentisiaethau Cynhwysol

Nod Prentisiaethau Cynhwysol - Cynllun Gweithredu Anabledd Llywodraeth Cymru yw dileu rhwystrau i bobl anabl sy'n dymuno gwneud prentisiaeth.

Am ragor o fanylion edrychwch ar Cynllun gweithredu anabledd ar gyfer prentisiaethau ar llyw.cymru.

Cewch wybod mwy am Brentisiaethau ar gyfer pobl anabl ar wefan Cymru'n Gweithio.


Chwilio am gefnogaeth

Os ydych chi'n chwilio am help i ddod o hyd i waith neu os hoffech chi gael mwy o sgiliau defnyddiwch ein offeryn Canfod Cymorth.


Dolenni defnyddiol

(Mae rhai o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig)


Efallai y byddech hefyd yn hoffi