Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Gyrfaoedd yn y cwricwlwm ôl-16

Lansiwyd y fframwaith gyrfaoedd a’r byd gwaith (GBG) yn 2008. Disgwylir i bob lleoliad yng Nghymru sydd â dysgwyr 11 i 19 oed ddefnyddio'r fframwaith i gynllunio eu cwricwlwm.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys canllawiau statudol newydd ar gyfer darparu gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith i ddysgwyr 3 i 16 oed ond bydd y fframwaith GBG yn dal i fod yn berthnasol i leoliadau addysg bellach ac ôl-16.

Mae gyrfaoedd a byd gwaith yn ymwneud â'r cysylltiadau rhwng pobl ifanc, eu dysgu, a byd gwaith. Dylai hyn eu helpu i baratoi ar gyfer y dewisiadau y byddant yn eu gwneud a fydd yn effeithio ar eu dyfodol.

Cyflawnir GBG llwyddiannus drwy raglen gynlluniedig sy’n cynnwys:

  • ystod o brofiadau ac amgylcheddau addysgu a dysgu
  • mewnbwn gan amrywiaeth o bartneriaid
  • profiadau o fyd gwaith
  • cyfleoedd ar gyfer cyngor ac arweiniad personol

Gallwch ddod o hyd i ddogfennaeth fframwaith GBG, canllawiau atodol a gwybodaeth am rolau a chyfrifoldebau, ar Hwb.

Sut gallwn ni gefnogi’r darpariaeth gyrfaoedd yn eich coleg neu leoliad?

Mae ein cydlynwyr cwricwlwm yn gweithio gyda phob coleg addysg bellach a lleoliad ôl-16 ledled Cymru. Mae gan y tîm arbenigol hwn wybodaeth arbenigol am yrfaoedd a byd gwaith. Gallant gynnig ymgynghoriaeth, hyfforddiant ac adnoddau i gefnogi cyflwyno GBG ar draws y cwricwlwm. Cysylltwch â ni i gael gwybod sut y gallwn weithio gyda'ch coleg neu leoliad.