Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

CrefftGyrfaoedd ar Minecraft

CrefftGyrfaoedd mewn byd Minecraft / CareersCraft in a Minecraft world

Mae byd CrefftGyrfaoedd yn galluogi chwaraewyr i ddatblygu sgiliau gyrfa ac ymwybyddiaeth wrth iddyn nhw ymweld â thirnodau ledled Cymru.

Mae CrefftGyrfaoedd yn cael ei chwarae drwy ddefnyddio Minecraft. Mae'n ffordd ryngweithiol i ddysgwyr archwilio pynciau gyrfaoedd drwy ddefnyddio platfform sy'n gyfarwydd ac yn boblogaidd gyda llawer o bobl.

Y byd CrefftGyrfaoedd

Mae chwaraewyr yn dechrau mewn adeilad o'r enw Fy Amgueddfa I. O'r fan honno gallan nhw deithio ar borthol neu drol i un o’r 7 tirnod i gwblhau gweithgaredd. Mae gweithgareddau'n cymryd rhwng 30 a 60 munud i'w cwblhau.

Tirweddau a gweithgareddau

Mae 6 tirnod yn gysylltiedig â gwahanol feysydd y Cwricwlwm i Gymru.

Yn y 7fed tirnod, Traphont Ddŵr Pontcysyllte, gall dysgwyr archwilio gyrfaoedd mewn peirianneg.

Y Senedd - Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Hyd y gweithgaredd: 60 munud

Mae chwaraewyr yn ymweld â'r Senedd, cartref democratiaeth Cymru. Maen nhw’n siarad â gwahanol gymeriadau am y sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen ar gyfer eu rôl.

Caiff dysgwyr eu hannog i fyfyrio ar eu sgiliau eu hunain - creadigrwydd, bod yn chwaraewr tîm, datrys problemau a defnyddio'r Gymraeg. Maen nhw’n gwneud nodiadau ynglŷn â sut y gallen nhw ffitio rôl ‘Gweinidog Minecraft’ cyntaf Cymru a chreu cais.

Dinbych-y-pysgod - Iechyd a Lles

Hyd y gweithgaredd: 30 munud

Mae chwaraewyr yn crwydro tref hanesyddol Dinbych-y-pysgod, sy'n enwog am ei thraethau a'i ffordd o fyw awyr agored. Maen nhw'n mynd ar daith drol arbennig lle gofynnir cwestiynau iddyn nhw er mwyn dysgu mwy amdanyn nhw eu hunain.

Mae dysgwyr yn meddwl am eu dewisiadau a'u diddordebau. Maen nhw’n ystyried sut mae'r rhain yn cysylltu â dysgu a gyrfaoedd posibl yn y dyfodol. Ar ddiwedd eu taith, rhoddir mwy o wybodaeth iddyn nhw am eu cryfderau a'u nodweddion personoliaeth.

Cyfnewidfa Lo Caerdydd – Mathemateg a Rhifedd

Hyd y gweithgaredd: 30 munud

Mae chwaraewyr yn ymweld â'r hyn a fu unwaith yn ganolbwynt i fasnach lo'r byd. Dyma lle llofnodwyd y siec gyntaf o £1 miliwn. Eu her nhw yw troi glo yn aur. Maen nhw’n siarad â masnachwyr gwahanol ac yn masnachu'r eitemau sydd ganddyn nhw.

Mae dysgwyr yn defnyddio eu mathemateg a rhifedd i weithio allan y fasnach a'r cyfnewid gorau. Gallai'r her hon fod yn fwy addas i bobl ifanc 11 oed a throsodd.

Canolfan Mileniwm Cymru – Celfyddydau Mynegiannol

Hyd y gweithgaredd: 60 munud

Mae chwaraewyr yn archwilio'r theatr ac yn dysgu am y gwahanol fathau o yrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiannau creadigol. Maen nhw'n dysgu am rolau o actorion i sgriptwyr i ddylunwyr set i farchnata.

Pan fydd dysgwyr yn gwybod mwy am y gwahanol rolau, maen nhw’n adeiladu eu set eu hunain. Gallan nhw gymryd ysbrydoliaeth o hoff ffilm, llyfr neu sioe neu ddefnyddio eu dychymyg nhw.

Pwll Mawr – Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Hyd y gweithgaredd: 30 munud

Rhaid i chwaraewyr gloddio i ddod o hyd i'r labordai tanddaearol ac achub dau gymeriad yn amgueddfa lofaol Pwll Mawr ar safle treftadaeth y byd ym Mlaenafon.

Bydd dysgwyr yn cwrdd â chymeriadau sydd â gyrfaoedd pwysig mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Byddan nhw’n dysgu mwy am eu rolau a'r math o waith maen nhw’n ei wneud.

Castell Caernarfon - Y Dyniaethau

Hyd y gweithgaredd: 45 munud

Mae chwaraewyr yn teithio i'r oesoedd canol i siarad â'r cymeriadau yng Nghastell Caernarfon am eu rolau.

Mae dysgwyr yn nodi cymaint o swyddi â phosib. Rhaid iddyn nhw ystyried a yw'r rolau'n dal i fodoli heddiw a'r hyn sy'n cyfateb iddyn nhw heddiw. Caiff dysgwyr eu hannog i ystyried sut a pham mae'r byd gwaith yn newid. Yna mae dysgwyr yn cynllunio gŵyl Eisteddfod yn y castell ac yn meddwl pa fathau o swyddi a sgiliau fyddai eu hangen.

Traphont Ddŵr Pontcysyllte - Gyrfaoedd mewn peirianneg

Hyd y gweithgaredd: 60 munud

Mae chwaraewyr yn cael eu herio i atgyweirio gollyngiad dŵr yn y strwythur enwog hwn.

Mae dysgwyr yn dysgu sut mae prosiectau peirianneg sifil yn cael eu rheoli. Yna maen nhw'n ystyried pa fathau o swyddi peirianneg fyddai'n ddefnyddiol ar gyfer y prosiect hwn. Maen nhw hefyd yn archwilio rolau mewn disgyblaethau peirianneg eraill ac yn ystyried a ydyn nhw’n cyfateb i'w sgiliau a'u diddordebau eu hunain.

Sut i ddod o hyd i CrefftGyrfaoedd a’i chwarae

Ewch i'r dudalen CrefftGyrfaoedd ar Addysg Minecraft (Saesneg yn unig) i:

  • Ddysgu mwy am Addysg Minecraft
  • Lawrlwytho byd CrefftGyrfaoedd
  • Derbyn cynlluniau gwersi a llyfrau gwaith disgyblion

Mewn ysgolion

I ddefnyddio Minecraft mewn ysgolion bydd angen i chi gael, neu osod, Minecraft: Rhifyn Addysg ar ddyfais.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud Minecraft: Rhifyn Addysg ar gael i bob ysgol a dysgwr yng Nghymru.

Pan fydd Minecraft: Rhifyn Addysg wedi'i osod gyda chi ar ddyfais, byddwch yn gallu lawrlwytho CrefftGyrfaoedd.

Gartref

Mae CrefftGyrfaoedd ar gael ar gyfer holl ddefnyddwyr presennol Minecraft. Os ydych chi eisoes yn chwarae Minecraft ar gonsol gemau neu gyfrifiadur gallwch lawrlwytho CrefftGyrfaoedd o Farchnad Minecraft.

Delweddau o CrefftGyrfaoedd

CrefftGyrfaoedd: Dinbych-y-pysgod mewn byd Minecraft

Dinbych-y-pysgod yn CrefftGyrfaoedd ar Minecraft

CrefftGyrfaoedd: Castell Caernarfon mewn byd Minecraft

Castell Caernarfon yn CrefftGyrfaoedd ar Minecraft