Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Heriau Gwaith Mewn Ffocws

Rydyn wedi gweithio gyda chyflogwyr ac athrawon i ddatblygu cyfres o heriau Gwaith Mewn Ffocws. Mae pob her yn gysylltiedig â Maes Dysgu yn y cwricwlwm.

Mae’r heriau’n helpu i ymgorffori addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn y cwricwlwm. Maen nhw hefyd yn helpu i sicrhau bod ymgysylltu â chyflogwyr yn ystyrlon.

Heriau i bwy

Gallwch ddefnyddio'r heriau gyda holl ddysgwyr blwyddyn 8 a 9. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr mwy abl a thalentog (MAT) a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Rôl cyflogwyr

Mae cyflogwyr ar draws Cymru wedi cydweithio â ni i ddatblygu'r heriau. Mae'r heriau'n rhoi cipolwg i ddysgwyr ar ddiwydiannau sy'n bwysig yng Nghymru.

Mae'r diwydiannau hyn yn hanfodol i economi Cymru ac yn cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous ar gyfer y dyfodol.

Sut mae dysgwyr yn elwa

Yn ystod yr heriau mae dysgwyr yn cwblhau tasgau'r byd go iawn. Byddan nhw’n datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd hanfodol gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.

Mae'r heriau hefyd yn pwysleisio themâu pwysig, sy'n cynnwys:

  • Menter
  • Meddwl yn greadigol
  • Cyfrifoldeb amgylcheddol a chymdeithasol
  • Meddwl yn feirniadol
  • Datrys problemau
  • Gwneud penderfyniadau

Yr heriau

Mae gan bob her ffocws neu thema sector ac fe'i datblygwyd mewn partneriaeth â chyflogwr.

Bydd her yn cymryd 5 gwers i'w chyflwyno a'i chwblhau. Byddwn yn rhoi canllaw athrawon a chyflwyniad PowerPoint i chi i weithio drwy'r her gyda'ch dysgwyr.

Mathemateg a Rhifedd

Y ffocws a’r cyflogwr:

  • Lled-ddargludyddion cyfansawdd - gwneuthurwr lled-ddargludyddion Vishay

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Y ffocws a’r cyflogwyr:

  • FinTech (technoleg ariannol) - Banc Starling a FinTech Cymru
  • Gweithgynhyrchu gwerth uchel - Toyota
  • Adnewyddadwy – RWE Renewables
  • Diogelwch seiber - Cyber First ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Iechyd a Lles

Y ffocws a’r cyflogwr:

  • Y Gymraeg yn y gweithle - Cyngor Gwynedd

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Y ffocws a’r cyflogwr:

  • Twristiaeth - Celtic Manor a Croeso Cymru

Y Dyniaethau

Y ffocws a’r cyflogwyr:

  • Bwyd a diod - Selwyn’s Seafoods a Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, Mentera
  • Gwyddorau bywyd - Gwasanaeth Gwaed Cymru

Defnyddio’r heriau

I gael gwybod mwy am gyflawni her Gwaith Mewn Ffocws yn eich ysgol, cysylltwch â'ch Cynghorydd Cyswllt Busnes neu anfonwch e-bost aton ni.

Adnoddau i gefnogi

Gallwch ddefnyddio ein Swyddi Dyfodol Cymru gyda dysgwyr i archwilio rhanbarthau a diwydiannau Cymru. Maen nhw'n gallu dod o hyd i’r swyddi y gallen nhw eu gwneud, nawr ac yn y dyfodol.