Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Dinas Gyrfaoedd

Mae Dinas Gyrfaoedd yn helpu dysgwyr mewn lleoliadau cynradd i ddechrau archwilio byd gwaith a gyrfaoedd.

Mae'n helpu athrawon i ymgorffori addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn eu cwricwlwm.

Yr adnodd

Mae Dinas Gyrfaoedd ar gyfer dysgwyr cynradd ym mlynyddoedd 5 i 6.  Mae'n cynnwys map o’r Ddinas Gyrfaoedd a 12 fideo wedi'u hanimeiddio.

Y nod yw:

  • Codi ymwybyddiaeth o'r ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael
  • Ehangu gorwelion a chodi dyheadau
  • Herio syniadau rhagdybiedig am fyd gwaith
  • Gwneud cysylltiadau rhwng diddordebau, sgiliau a phynciau a dewisiadau gyrfa posibl yn y dyfodol

Mae adnodd Dinas Gyrfaoedd, deunyddiau ystafell ddosbarth ategol eraill, a nodiadau i athrawon ar gael ar Hwb.

Y map

Mae'r adeiladau a'r nodweddion ar y map Dinas Gyrfaoedd yn cynrychioli gwahanol sectorau neu gyflogaeth.

Gall dysgwyr ddefnyddio'r map rhyngweithiol, neu sganio codau QR ar fap printiedig, i wylio animeiddiad am swydd anarferol yn y sector hwnnw.

Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ystyried rhai fel sectorau blaenoriaeth. Mae hyn am eu bod yn tyfu neu'n cyflogi llawer o bobl. Mae pob un o'r adeiladau a welir yn cynrychioli sector blaenoriaeth.

Gallwch ddefnyddio'r map i ysgogi trafodaeth. Gall dysgwyr feddwl am swyddi y maent yn ymwybodol ohonynt, y rhai y mae pobl yn eu gwneud yn eu hardal leol, a thu hwnt.

Yr animeiddiadau

Mae 12 animeiddiad, pob un yn para rhwng 60 a 90 eiliad. Maen nhw’n dangos swydd anarferol ym mhob diwydiant ac fe'u dewiswyd i annog trafodaeth.

Mae gan bob animeiddiad fformat tebyg. Bydd dysgwyr yn cael syniad o beth mae'r swydd yn ei olygu. Byddant hefyd yn dod i wybod am ddiddordebau, sgiliau neu rinweddau a fyddai'n ddefnyddiol i wneud y swydd honno. Bydd hefyd yn dweud wrthynt pa bynciau y gallai fod angen iddynt fod yn dda yn eu gwneud, neu yn eu hastudio, i wneud y math hwnnw o swydd.

Mae'r animeiddiadau'n cynnwys y sectorau a'r swyddi canlynol:

  • Amaethyddiaeth - Seicolegydd Anifeiliaid Anwes
  • Adeiladu - Gweithiwr Mynediad â Rhaff
  • Celfyddydau Creadigol, Cyfryngau a Diwylliant - Technegydd Trwsio Tedi Bêrs
  • Technoleg Ddigidol - Sibrydwr Deallusrwydd Artiffisial
  • Addysg - Therapydd Celf
  • Ynni, Dŵr a Gwastraff - Rhewlifegydd
  • Cyllid, Yswiriant a Chyfreithiol - Archwilydd Troseddau Ariannol
  • Iechyd - Technolegwyr Genetig
  • Gweithgynhyrchu - Gwyddonydd Mynegiant Protein
  • Gwasanaethau Cyhoeddus - Peilot Dronau’r Heddlu
  • Twristiaeth, Lletygarwch, Chwaraeon a Hamdden - Hyfforddwyr Naid Bynji
  • Cludiant a Storio - Brocer Cychod Hwylio

Gwyliwch un o'r animeiddiadau

Rhewlifegydd

Dysgwch beth mae rhewlifegydd yn ei wneud, ei diddordebau, ei sgiliau a'r pynciau y gallai fod wedi'i astudio.

Dangos trawsgrifiad

Adnoddau eraill sy’n gysylltiedig â diwydiannau

Gallech ddefnyddio Swyddi Dyfodol Cymru gyda’ch dosbarth i ddysgu mwy am rai o ddiwydiannau pwysicaf Cymru.