Archwilio'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith.
Dysgwch am ein map a'n hanimeiddiadau i gyflwyno dysgwyr i wahanol swyddi a diwydiannau.
Dysgwch sut mae dysgwyr yn gallu datblygu sgiliau gyrfaoedd wrth iddyn nhw edrych ar dirnodau yng Nghymru yn Minecraft.
Gwyliwch ein fideos byr sy'n dangos gwahanol swyddi a'r sgiliau y byddai eu hangen arnoch i'w gwneud. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i YouTube.
Dysgu am adnoddau digidol gan gynnwys fideos cyflogwyr a thasgau sy'n gysylltiedig â'r Cwricwlwm i Gymru.
Adnoddau ychwanegol
Mae rhagor o adnoddau ar gael ar Hwb, sy’n cynnwys:
- Ein Banc Syniadau Mentrus i ysbrydoli, cefnogi ac annog addysg entrepreneuriaeth gyda dysgwyr
- Dysgu entrepreneuraidd: adnodd thematig - canllaw i athrawon ar sut i ddod â dysgu entrepreneuraidd i’r ystafell ddosbarth
- Ein Taith Fenter - adnodd sy'n plotio camau proses fenter. Mae'n cefnogi cyflwyno profiadau entrepreneuraidd a myfyrio ar sgiliau a llwyddiannau
- Y Pecyn Cymorth Menter ac Entrepreneuriaeth - mentrau ac adnoddau i helpu athrawon i gefnogi dysgwyr i ddod yn Gyfranwyr M
- Taflen weithgaredd y Cwis Buzz
- Taflen weithgaredd ‘Swyddi yr hoffwn eu gwneud’ i gofnodi gwybodaeth am swydd sydd o ddiddordeb i ddisgyblion. Mae yna 30 o broffiliau swyddi gwahanol wedi'u rhestru yn Sôn am Swyddi neu dros 700 yn Gwybodaeth am Swyddi y gellir eu harchwilio gan y pynciau sydd o ddiddordeb i ddisgyblion
- Ein Cyfeirlyfr Adnoddau sy’n cynnwys dolenni cyswllt i sefydliadau ac adnoddau a all gefnogi addysg gyrfaoedd yn eich lleoliad chi