Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Canllawiau statudol

Mae canllawiau statudol addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith (gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith) yn cefnogi ysgolion a lleoliadau i gynllunio a gweithredu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith.

Mae gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn thema drawsbynciol drwy’r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed.

Mae gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn hanfodol i ddatblygu sgiliau ar gyfer gwaith a bywyd. Mae'n galluogi dysgwyr i ddeall y berthynas rhwng eu dysgu a'u dyfodol.

Mae'r canllawiau statudol yn cynnwys y canlynol:

  • Pam mae gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn bwysig mewn ysgolion a lleoliadau
  • Rhoi cyd-destun i sgiliau drwy yrfaoedd a phrofiadau byd gwaith
  • Rhoi cyd-destun i’r Meysydd Dysgu a Phrofiad drwy yrfaoedd a phrofiadau byd gwaith
  • Dylunio gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn y cwricwlwm
  • Adolygu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn y cwricwlwm
  • Dylunio a chyflwyno darpariaeth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith
  • Gwerthuso darpariaeth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith

Mae'r canllawiau'n nodi pwy sy'n cyfrannu at yrfaoedd a phrofiadau byd gwaith effeithiol, gan gynnwys llywodraethwyr, pwyllgorau rheoli, awdurdodau lleol a Gyrfa Cymru. Mae'n nodi bod rôl uwch arweinwyr yn bwysig o ran sicrhau datblygiad strategol gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith.

Mae gan ysgolion a lleoliadau gyfrifoldeb i weithredu dull ysgol gyfan o ymdrin â gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith. Mae'r canllawiau'n tynnu sylw at y rôl y mae Arweinwyr Gyrfaoedd yn ei chwarae o ran grymuso perchnogaeth ac ymrwymiad i yrfaoedd a phrofiadau byd gwaith.

Mae'r canllawiau'n awgrymu bod y canlynol yn chwarae rhan bwysig mewn gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith effeithiol:

  • Dysgu proffesiynol i sicrhau bod gan ymarferwyr gyfleoedd dysgu priodol a pherthnasol i helpu integreiddio gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith i’r cwricwlwm
  • Profiadau sy'n gysylltiedig â gwaith sy'n cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd sy'n arddangos yr ystod o gyfleoedd gyrfa o fewn cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • Gwybodaeth am y farchnad lafur a fydd yn helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ac effeithiol ynghylch gwaith, astudio a llwybrau hyfforddi

Bydd canllawiau statudol gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn cael eu cyflwyno o fewn yr un amserlen â’r Cwricwlwm i Gymru. Gall ysgolion a lleoliadau barhau i weithio yn unol â’r Fframwaith Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith (2008).

Dysgwch mwy am ganllawiau statudol gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith ar Hwb

Cewch ddogfennau i gefnogi’r Fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith (2008) ar Hwb.

Bydd canllawiau statudol gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn disodli'r holl ddogfennau o 2026.