Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Cyflogau, hawliau ac oriau gwaith

Y pethau y mae angen i chi eu gwybod am gyflogau, hawliau ac oriau gwaith.

Edrychwch ar y cwestiynau cyffredin.

Faint o oed y mae angen i mi fod i weithio'n llawn amser?

Gallwch ddechrau gweithio’n llawn amser hyd at 40 awr yr wythnos pan fyddwch wedi cyrraedd yr oedran ieuengaf ar gyfer gadael yr ysgol.

Yng Nghymru, mae’r oedran ieuengaf ar gyfer gadael yr ysgol yn cael ei gyfrifo fel hyn:

  • Gallwch adael yr ysgol ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin, ond dim ond os byddwch yn 16 oed erbyn diwedd gwyliau haf y flwyddyn ysgol honno (Gov.uk)

Dewch i wybod mwy am gyflogaeth plant a'r oedran gadael ysgol swyddogol ar Gov.uk. (dolenni Saesneg)

A allaf weithio’n rhan amser tra byddaf yn yr ysgol?
  • Gallwch weithio’n rhan amser o 13 oed ymlaen

Yr unig eithriad i hyn yw plant sy’n gweithio yn y byd teledu, theatr neu fodelu. Rhaid i unrhyw un o dan 13 oed sy’n gweithio yn y tri maes hyn gael trwydded perfformio.

Dewch i wybod mwy am gyflogaeth plant a gweithio fel plentyn sy'n perfformio at Gov.uk. (dolenni Saesneg)

Beth yw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol/Cyflog Byw Cenedlaethol?

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol/ Cyflog Byw Cenedlaethol yw’r gyfradd isaf fesul awr y byddech yn ei chael yn dibynnu ar eich oedran ac os ydych yn brentis.

Os ydych dros 23 oed, byddwch yn cael y Cyflog Byw Cenedlaethol o leiaf. Os ydych o dan 23 oed, ond dros oedran gadael yr ysgol, byddwch yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Rhaid i chi fod o leiaf o oedran gadael yr ysgol i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Mae’r cyfraddau hyn yn newid bob 1 Ebrill.

O 1 Ebrill 2024, bydd gan weithwyr 21 oed a throsodd hawl i’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Tabl yn dangos Cyflog Cenedlaethol/ Cyflog Byw Cenedlaethol mewn £ ac yn ôl oed:
Blwyddyn21 a throsodd18 i 20O dan 18Prentis
Ebrill 2024£11.44£8.60£6.40£6.40

Edrychwch ar Gyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol ar Gov.uk am fwy o wybodaeth, gan gynnwys cyfraddau ar gyfer prentisiaid sy'n dibynnu ar oedran a chyfnod y prentisiaeth.

Gall HelpwrArian, gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, eich helpu i ddeall mwy am eich cyflog. Edrychwch ar Deall eich slip cyflog i wybod mwy.

Sut mae cael Rhif Yswiriant Gwladol?

Rwyf dan 20 oed

Os ydych yn byw yn y DU a bod rhiant wedi llenwi ffurflen hawlio Budd-dal Plant ar eich rhan, dylai rhif Yswiriant Gwladol gael eu hanfon atoch yn awtomatig yn y 3 mis cyn eich pen-blwydd yn 16 oed. Os nad ydych yn derbyn un, a’ch bod rhwng 16 a 19 oed gallwch ffonio rhif llinell gymorth Cyllid a Thollau EM (CThEM)

Ffôn:0300 200 3500
Ffôn testun:0300 200 3519

Iaith Gymraeg: 0800 141 2349

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 8am-6pm

Pan fyddwch yn ffonio rhif y llinell gymorth, ni fydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn rhoi eich Rhif Yswiriant Gwladol i chi dros y ffôn. Caiff ei bostio atoch. Mae hyn yn cymryd 15 diwrnod gwaith fel arfer.


Rwyf dros 20 oed

Mae gwybodaeth am sut i wneud cais am Rif Yswiriant Gwladol ar Gov.uk

Gall gymryd hyd at 16 wythnos i gael eich Rhif Yswiriant Gwladol.


Rwyf wedi colli fy Rhif Yswiriant Gwladol

Mae gwybodaeth i helpu ddod o hyd i Rif Yswiriant Gwladol coll ar Gov.uk


Ble gallaf gael mwy o wybodaeth?

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am eich Rhif Yswiriant Gwladol ar Gov.uk(dolen Saesneg)

Lle y gallaf gael mwy o wybodaeth am fy hawliau cyflogaeth?

Gellir cysylltu gyda ACAS (Advisory, Conciliation and Arbitration Service) am gyngor cyfrinachol, rhad ac am ddim ar gyfraith cyflogaeth neu gwestiynau sy’n gysylltiedig â gwaith.

Ffôn:            0300 123 1100
Ffôn testun: 18001 0300 123 1100

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 8am-6pm

Gweld y ffyrdd eraill o gysylltu ag ACAS. (dolen Saesneg)

Mae HelpwrArian, gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, yn cynnig cyngor am ddim a diduedd am arian a'ch hawliau fel cyflogai.

Lle y gallaf ganfod gwybodaeth am ddatgelu cofnodion troseddol i gyflogwyr?
Beth yw fy hawliau os ydw i’n weithiwr asiantaeth dros dro?

Bydd gennych hawliau cyflogaeth gweithiwr ar Gov.uk (dolen Saesneg) o’r diwrnod y byddwch yn dechrau gweithio.

Ar ôl 12 wythnos yn eich swydd, byddwch yn gymwys i gael yr un hawliau â’r bobl sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y cwmni.

Darllen mwy am eich hawliau fel gweithiwr asiantaeth ar Gov.uk (dolen Saesneg)

Pwy sy'n gallu fy helpu os byddaf yn colli fy swydd?

Edrychwch ar Opsiynau ar ôl colli swydd am ragor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael.

Mae HelpwrArian, gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, yn gallu eich helpu i gynllunio cynllun colli swydd, hefo gwahanol budd-daliadau y gallwch eu hawlio a'r hawliau cyfreithiol. Cewch wybod mwy ar HelpwrArian - Dileu swydd.

Pwy sy'n gallu fy helpu gyda phensiynau ac ymddeoliad?

Gall adran Adnoddau Dynol eich cwmni roi rhagor o wybodaeth i chi am y math o bensiwn sydd ganddoch a'r opsiynau gwahanol sydd ar gael i chi os ydych yn ystyried ymddeol.

Gallwch hefyd wybod mwy am Bensiwn y Wlad ar Gov.uk. (dolen Saesneg yn unig)

Mae HelpwrArian yn cynnig cyngor a gwybodaeth am mathau o bensiwn ac incwm ymddeol. Cewch wybod mwy ar HelpwrArian - Pensiynau ac Ymddeoliad.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cymorth Cyflogaeth

Dysgwch am y cymorth sydd ar gael i'ch helpu chi i gael gwaith os ydych chi’n anabl neu os oes gennych chi gyflwr iechyd.