Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cymorth colli swydd i gyflogwyr

Os ydych chi'n gorfod wynebu'r penderfyniad anodd o ddiswyddo'ch staff, gallwn helpu i'ch cefnogi chi a'r rhai sydd dan fygythiad o gael eu diswyddo. Yn y cyfnod anodd yma, mae pethau'n newid o ddydd i ddydd, ond gallwn eich helpu gyda'r cyngor diweddaraf am y gefnogaeth sydd ar gael. Cysylltwch â ni.

Rydym yn darparu gwasanaeth cymorth colli swydd proffesiynol am ddim i’r rhai sydd dan fygythiad o golli swydd.

Gallwn:

  • Darparu cyngor a chyfarwyddyd gyrfaol ar sail un i un
  • Adnabod ffynonellau cyllid posibl ar gyfer hyfforddiant i gyflogeion

  • Darparu gwybodaeth ar gyfleoedd gwaith
  • Helpu gyda CV, cwblhau ffurflenni a llythyrau cais

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.


Cyllid ReAct+

Mae pecyn ReAct ar gael i'ch helpu os ydych chi'n cyflogi rhywun sydd wedi'i ddiswyddo neu'n ddi-waith. Rhaid gwneud cais ReAct+ o fewn 12 mis ar ôl i'r unigolyn golli ei swydd neu ddod yn ddi-waith. Mae'n cynnwys:

  • Cymorth Recriwtio Cyflogwr (cymhorthdal cyflog) - Hyd at £3,000 fel cyfraniad tuag at recriwtio unigolyn y mae diswyddo neu ddiweithdra yn effeithio arno
  • Cymorth Hyfforddi Cyflogwyr - Hyd at £1,000 tuag at gost hyfforddiant sy'n gysylltiedig â swydd
  • Cymorth ychwanegol - hyd at £1,000 os ydych yn cyflogi person anabl neu berson di-waith o dan 25 oed neu £2,000 ychwanegol os ydych yn cyflogi rhywun sydd o dan 25 oed ac yn ddi-waith ac yn anabl

Gallwch wneud cais am Gymorth Recriwtio i Gyflogwyr ar ei ben ei hun, neu gyda Chymorth Hyfforddiant i Gyflogwr. Ni ellir gwneud cais am gymorth hyfforddi i gyflogwyr ar sail annibynnol. Gwybod mwy am gyllid ReAct+ ar Busnes Cymru.


Tystebau cyflogwyr

Darllenwch dystebau cyflogwyr ynglŷn â sut mae gwasanaeth cymorth diswyddo Gyrfa Cymru wedi helpu eu gweithwyr wrth iddynt wynebu cael eu diswyddo. 

Roeddwn i am ddiolch i chi a'ch tîm am y gefnogaeth sylweddol rydych chi wedi'i darparu i ni dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i'r rhan fwyaf o'r staff ymdopi â’r ailstrwythuro sylweddol sydd naill ai wedi effeithio arnyn nhw’n uniongyrchol neu ar eu ffrindiau a'u cydweithwyr.

Roedd y gweithdai a gynhaliwyd gennych yn hynod o ddefnyddiol gan eu bod yn agor llygaid pobl i'r farchnad lafur leol ac yn eu helpu i werthfawrogi cyfle - roedd hyn yn arbennig o berthnasol i staff a oedd wedi gweithio i'r cwmni ers amser maith ac a oedd yn nerfus iawn ac yn ansicr o'u sgiliau. Ni ellir pwysleisio ddigon gwerth y gefnogaeth emosiynol a'r cymhelliant a ddarparwyd gan eich gweithdai.

Roedd y cymorth mwy ymarferol o ran gwybodaeth am grantiau a budd-daliadau a chymorth gyda CV yn ddefnyddiol iawn hefyd.

Yn fwy diweddar, rhoddodd y clip ffilm You Tube a gynhyrchwyd gennych yn lle’r gweithdai grynodeb gwych o'r gefnogaeth oedd ar gael a chyfeirio at y gwahanol ffynonellau cymorth - roedd y tîm yn canmol hwn yn fawr.

O safbwynt y cwmni, a drwy ddefnyddio'ch gwasanaethau, rwy'n hyderus ein bod wedi darparu cefnogaeth broffesiynol i'r staff, sydd wedi helpu i liniaru'r caledi a all ddod yn sgil diswyddo, ac sydd wedi helpu i’w cefnogi i'r cam nesaf yn eu gyrfaoedd."

Hoffwn ddiolch i Gyrfa Cymru am y cymorth a roddwyd i'n gweithwyr. O'n cyfarfod cychwynnol ym mis Chwefror 2020 pan esboniwyd bod y cwmni'n cael ei ailstrwythuro ac y byddai nifer o weithwyr yn colli eu swyddi bu eich cefnogaeth yn ardderchog.

Gwnaeth yr angen i ddilyn canllawiau a chyfarwyddiadau'r llywodraeth i gadw eich tîm a'n gweithwyr yn ddiogel yn ystod y broses o wneud hyn y gwaith yn fwy cymhleth. Ond gan weithio gyda'n gilydd goresgynwyd y rhwystrau hyn.

Cafodd y cynhyrchiad fideo YouTube i gyflwyno sesiwn ymwybyddiaeth Gyrfa Cymru a’r Ganolfan Byd Gwaith dderbyniad da iawn gan ein gweithwyr ac roedd yr ymgynghoriadau dilynol 1-i-1 o bell yr un mor llwyddiannus, gydag adborth cadarnhaol gan bawb a gymerodd ran. Rwy'n gwybod y byddant yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r rhai sy'n chwilio am waith newydd.

Rydym wir yn gwerthfawrogi proffesiynoldeb a gwasanaeth eich tîm.

 

Dolenni defnyddiol

Busnes Cymru

Wales TUC Cymru

DWP

Cynghorau Sgiliau Sector (dolen Saesneg)


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

ReAct+

Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi’u teilwra a allai gynnwys cymorth ariannol, hyfforddiant sgiliau a Chymorth Datblygu Personol er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r pethau sy'n eich rhwystro rhag cael swydd.