Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Abby

Abby

Rhoddodd cynghorydd gyrfa Abby gymorth iddi ddod o hyd i'w llwybr i weithio gydag anifeiliaid.

Angerdd am ffermio

Roedd Abby, myfyrwraig ym Mlwyddyn 10 yng Ngwynedd, yn teimlo ar goll am ei dyfodol. Roedd ganddi ddiddordeb erioed mewn gweithio gydag anifeiliaid fferm. Fodd bynnag, roedd hi'n ansicr ynglŷn â sut i droi ei hangerdd yn yrfa.

Archwilio opsiynau

Roedd Cari, cynghorydd gyrfa yn ysgol Abby, yn helpu myfyrwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 i feddwl am eu dyfodol ac archwilio eu hopsiynau.

Aeth Abby i un o sesiynau grŵp Cari. Yn ddiweddarach, cysylltodd i drefnu cyfarfod un i un i drafod ei hopsiynau yn fanylach.

Eglurodd Abby: “Holodd Cari am fy niddordebau a’r hyn yr oeddwn i eisiau ei wneud. Dywedais wrthi fy mod wrth fy modd yn ffermio a bod gen i ddiddordeb mewn godro gwartheg. Helpodd Cari fi i ddod o hyd i gyrsiau fel Gofalu am Anifeiliaid Lefel 1 a Lefel 2, ac esboniodd sut mae prentisiaethau’n gweithio.

“Roedd Cari yn anhygoel. Dangosodd hi wefan Gyrfa Cymru i mi a sut i'w defnyddio. Fe helpodd hi fi i roi’r gorau i boeni a rhoddodd lawer o dawelwch meddwl i mi.” Dan arweiniad cynghorydd gyrfa, gwnaeth Abby gais llwyddiannus am brentisiaeth mewn fferm laeth.

Newid meddwl

Yn fuan ar ôl dechrau ei phrentisiaeth, penderfynodd Abby y byddai mynychu coleg yn fwy addas ar gyfer ei nodau hirdymor.

Mae hi wedi dechrau cwrs Gofalu am Anifeiliaid Lefel 1. Mae'n llawn cyffro am y cyfleoedd y gall mynd i goleg eu cynnig i'w gyrfa yn y dyfodol.

Cyngor i eraill

Mae Abby eisiau annog pobl ifanc eraill i ofyn am gymorth gan gynghorydd gyrfa.

Dywedodd: “Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud, siaradwch â chynghorydd gyrfa. Roedd y sesiynau gyda Cari yn hyfryd. Rwy’n teimlo’n llawer mwy sicr am fy nyfodol i nawr.”

Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra byddwch chi’n gweithio ac yn ennill cyflog. Chwiliwch am brentisiaethau yn eich ardal chi, dysgwch am brentisiaethau a lefelau prentisiaeth, a mynnwch gyngor ar sut i wneud cais.