Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Amelia

Amelia

Doedd gan Amelia ddim syniad beth roedd hi eisiau ei wneud ar ôl iddi adael yr ysgol, ond fe wnaeth cymorth gyrfaoedd ei helpu i fynd i goleg milwrol.

Ar ôl gadael yr ysgol

Gadawodd Amelia yr ysgol ym Mlwyddyn 10 a mynychu Aspire, darpariaeth addysg oddi ar y safle. 

Fel rhan o gynnig addysgol yn Aspire, cafodd Amelia gymorth gan y cynghorydd gyrfaoedd, Nick Sparrow.

Bu’r ddau yn siarad, i ddechrau, am gamau nesaf Amelia. Rhoddodd Nick gefnogaeth i Amelia nodi ei diddordebau a’i huchelgeisiau.

Archwilio opsiynau

Yn ystod eu sesiynau, bu Nick yn cefnogi Amelia i archwilio ei hopsiynau, gan gynnwys colegau a chyrsiau posibl.

Yn gyntaf, ystyriodd Amelia ei diddordeb mewn iechyd a harddwch. Fel cadét tân, roedd gan Amelia ddiddordeb hefyd mewn gwneud rhywbeth yn ymwneud â hyn, ond nid oedd yn siŵr sut y gallai ei gyflawni.

Bu hefyd yn ystyried cwrs gwasanaeth cyhoeddus a chafodd rywfaint o brofiad gwaith yn gweithio gyda phlant.

Dywedodd Amelia: “Helpodd Nick fi i weld pethau’n glir. Roeddwn i eisiau dod o hyd i’r hyn roeddwn i wir eisiau ei wneud a pheidio â gwneud rhywbeth er ei fwyn ac yna rhoi’r gorau iddo ar ôl wythnos.”

Dod o hyd i’r llwybr gorau iddi hi

Penderfynodd Amelia yn y pen draw mai coleg paratoi milwrol MPCT oedd yr opsiwn gorau iddi hi.

Dywedodd hi: “Roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael fy nenu ato oherwydd ei fod wedi’i leoli yn y fyddin, ac mae gen i ddiddordeb mewn mynd i mewn i’r gwasanaeth tân. Felly bydd yn dysgu pethau i mi sy’n ymwneud â’r gwasanaeth tân, gwaith yr heddlu, y fyddin. Roeddwn i’n teimlo mai dyma beth oedd yn gweddu orau i mi.”

Rhoddodd Nick gymorth i Amelia gyda’i CV a’i chais i’r coleg, a chafodd ei derbyn.

Dechreuodd Amelia yn MPCT yr haf ar ôl iddi orffen ei blwyddyn olaf yn Aspire.

Eglurodd hi: “Mae’n mynd yn dda iawn. Mae’n seiliedig ar ffitrwydd yn bennaf, sy’n heriol i mi. Ond rydw i wedi bod yma ers pedair wythnos ac yn dal yma yn mwynhau, felly mae hynny’n beth da iawn.”

Edrych yn ôl ar gefnogaeth

“Rwy’n teimlo, pe na bawn wedi cael y gefnogaeth gan Nick, fyddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod am y coleg hwn. 

“Fyddwn i ddim wedi gallu addasu fy CV neu gais gan fy mod yn teimlo’n ddi-glem am bethau felly.

“Oni bai am Nick, fyddwn i ddim yma.

“Mae bob amser yn dda cael rhywun sydd yno i’ch helpu, yn hytrach na chael trafferthion ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n teimlo bod angen yr help ychwanegol arnoch chi, peidiwch â bod ofn gofyn.”

Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi