Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Andy

Andy

Cymorth gyrfa yn helpu Andy i droi ei angerdd am ffitrwydd yn gynllun gyrfa.

Roedd Andy, 16 oed, yn ansicr ynglŷn â'i ddyfodol a beth i'w wneud ar ôl ysgol. Roedd yn gobeithio dod o hyd i lwybr a oedd yn cyd-fynd â'i ddiddordebau ac a fyddai'n arwain at yrfa yr oedd yn ei mwynhau.

Dywedodd Andy, "Syrthiais mewn cariad â ffitrwydd, ond roeddwn i'n gwneud cadetiaid yr heddlu ar y pryd ac yn meddwl mai dyna'r llwybr cywir i mi. Ar ôl hyfforddi am fisoedd, sylweddolais mai'r hyn roeddwn i wir yn ei fwynhau oedd helpu pobl.

"Cyn i mi chwilio am gymorth, roeddwn i’n poeni am fy nyfodol. Roeddwn i'n teimlo ar goll a doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn i'n mynd i'w wneud ar ôl ysgol."

Gan deimlo'n ansicr ynghylch ei gamau nesaf, cysylltodd Andy â Gyrfa Cymru ar ôl gweld gwybodaeth a gafodd ei rhannu gan ei ysgol.

Archwilio ei opsiynau

Cyfarfu Andy â'r cynghorydd gyrfa, Toni-Jo. Gyda'i gilydd, fe wnaethon nhw edrych ar wahanol syniadau gyrfa, gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaeth tân a rolau sy'n gysylltiedig â chwaraeon.

Fe wnaethon nhw ystyried y sgiliau oedd yn gyffredin rhwng y swyddi hyn a sut roedden nhw'n cyd-fynd â chryfderau Andy.

Yn ystod y trafodaethau hyn, roedd hyfforddiant personol yn sefyll allan fel opsiwn cryf.

Dywedodd, "Fe wnaethon ni siarad am fy sgiliau, fel cyfathrebu, arweinyddiaeth a gweithio mewn tîm. Pan edrychon ni ar yr holl rolau gwahanol, roedd hyfforddiant personol yn gwneud synnwyr. Roedd ffitrwydd bob amser ar y brig i mi. Fe gyfunodd bopeth rwy'n ei fwynhau."

Cymryd camau

Ers hynny, mae Andy wedi cymryd camau clir tuag at ei nod. Cwblhaodd BTEC mewn chwaraeon ym mlwyddyn 10 a blwyddyn 11 i ddeall mwy am y rôl.

Mae'n bwriadu parhau i ddatblygu ei sgiliau yn y chweched dosbarth ac mae wedi dod o hyd i gwrs cymhwyster hyfforddi personol ar-lein am bythefnos, i’w gwblhau ar ôl gorffen ei TGAU.

Dywedodd, "Rydw i wedi bod yn gweithio tuag at ddod o hyd i'r llwybr cyflymaf i ddod yn hyfforddwr personol. Fe ddes i o hyd i’r cwrs fy hun oherwydd dw i’n gwybod mai dyma beth dw i eisiau ei wneud."

Mae cymhelliant Andy hefyd yn dod o'i brofiadau personol. Cafodd ei eni â chyflwr ar y galon a chafodd sawl llawdriniaeth pan oedd yn blentyn.

Eglurodd, "Oherwydd cyflwr fy nghalon, doeddwn i ddim yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon bob amser pan oeddwn i'n iau. Mae mynd i'r gampfa wedi helpu i fagu fy hyder, a dwi am helpu pobl ifanc eraill i deimlo'r un peth.

Edrych tua’r dyfodol

Mae Andy bellach yn canolbwyntio’n llawn ar y llwybr hwn ac mae’n teimlo’n llawn gobaith am ei ddyfodol: "Mae dod i Gyrfa Cymru wedi rhoi nod i mi. Rwy’n gwybod beth galla i ei gyflawni nawr."

Mae'n annog pobl ifanc eraill sy'n teimlo'n ansicr ynghylch eu camau nesaf i geisio cymorth.

Dywedodd Andy, "Rhowch gynnig arno. Mae yna lawer o bobl sy'n teimlo ar goll, fel roeddwn i. Mae wir yn helpu cael rhywun i'ch tywys a dangos y llwybrau y gallwch chi eu cymryd."

Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cysylltu â ni

Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth