Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Aoife

Aoife yn sefyll o flaen baner MotorSportUK

Gyda chymorth cynghorydd gyrfa, cymerodd Aoife gam tuag at yrfa mewn peirianneg chwaraeon moduro.

Ceisio cyngor

Mae Aoife, sy’n 15 oed, yn ddisgybl ym Mlwyddyn 11 mewn ysgol ym Mhort Talbot. Roedd ganddi lawer o ddiddordebau ond nid oedd yn siŵr pa yrfa i'w dewis.

Dywedodd: “Roeddwn yn y tywyllwch braidd o ran yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud gyda fy ngyrfa. Roedd gen i'r holl ddiddordebau hyn, a doeddwn i ddim wir yn gwybod pa lwybr i'w ddilyn."

Roedd Aoife wedi ystyried deintyddiaeth, ond roedd ganddi ddiddordeb mewn peirianneg hefyd. Trefnodd apwyntiad gyda Hannah Tossell, cynghorydd gyrfa yn ei hysgol, i ofyn am gyngor.

Cymorth gan Gyrfa Cymru

Cafodd Aoife gymorth gan Hannah i ystyried ei diddordebau yn fanylach. Edrychon nhw ar yrfaoedd oedd yn cyd-fynd â'r pynciau roedd Aoife yn eu mwynhau.

Dywedodd: "Fe ofynnodd hi i mi pa fath o ddiddordebau oedd gen i, pa bynciau roeddwn i'n eu mwynhau, ac fe aethon ni drwy yrfaoedd posibl y gallwn i eu gwneud gyda'r pynciau Safon Uwch roeddwn i am eu dewis."

Edrychodd Aoife ar y cymwysterau y mae eu hangen ar gyfer gyrfa mewn deintyddiaeth. Sylweddolodd nad oedd am astudio'r pynciau hynny. Yn hytrach, sianelodd ei diddordeb mewn peirianneg.

Dangosodd Hannah wefan Gyrfa Cymru i Aoife, a rhoddodd gynnig ar gwis paru gyrfa. Roedd peirianneg yn un o’r pynciau a ddaeth i’r brig, a helpodd iddi benderfynu ei ddilyn.

Dywedodd Aoife: “Mae hi [Hannah] yn gefnogol iawn, yn hyfryd iawn. Rwy'n teimlo y gallaf siarad â hi yn hawdd iawn. Fe wnaeth hi i mi deimlo'n hyderus gyda fy newisiadau."

Magu hyder

Ers cael cymorth, mae Aoife wedi magu hyder yn ei dewisiadau gyrfa. Mae hi wedi penderfynu ar ei phynciau Safon Uwch ac yn teimlo’n fwy brwdfrydig am ei dyfodol.

Dywedodd Aoife: "Rwy wedi setlo ac yn canolbwyntio mwy ar fy newisiadau gyrfa nawr."

Yn frwd dros Fformiwla Un

Ers cyfarfod â'i chynghorydd, mae Aoife wedi gwneud cais am gyfleoedd newydd. Mae hi wedi cael arweiniad ar baratoi ei CV ac ysgrifennu llythyr eglurhaol.

Diolch i’w gwaith caled, cynigiwyd cyfweliad profiad gwaith i Aoife. Llwyddodd i gael lleoliad ar gyfer tymor yr haf yn ymwneud â gwyddorau deunydd ym maes chwaraeon moduro.

Mae Aoife yn breuddwydio am weithio ym maes peirianneg chwaraeon moduro, yn benodol gyda Fformiwla Un. Mae hi'n bwriadu mynd i'r brifysgol i astudio peirianneg neu wyddorau deunyddiau. Hoffai astudio yn Iwerddon, o bosibl yn Nulyn neu Galway.

Dywedodd: “Rwy’n llawn cyffro. Alla i ddim aros i ddechrau gweithio tuag at fy Safon Uwch a’m gradd yn y brifysgol. Mae wir wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi."

Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Creu CV

Dysgwch sut i greu eich CV, dysgwch beth i'w gynnwys yn eich CV, edrychwch ar ein templedi CV am ddim, a lawrlwythwch ein Canllaw i ysgrifennu CV.