Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Ashlei

Ashlei

Mae cymorth gyrfa wedi helpu Ashlei i ddarganfod dyfodol ym maes peirianneg awyrofod.

Roedd Ashlei yn teimlo'n ansicr ynghylch pa gyfeiriad i'w gymryd ar ôl gorffen ei harholiadau TGAU.

Dywedodd, “Roedd gen i lawer o opsiynau yn fy meddwl, ond doeddwn i ddim yn gwybod pa lwybr oedd orau i mi mewn gwirionedd.

“Roeddwn i am wneud pwnc ymarferol. Roeddwn i'n meddwl am fynd i'r diwydiant adeiladu neu rywbeth tebyg i hynny.”

Archwilio opsiynau a gwneud penderfyniadau

Roedd Ashlei yn gwybod bod cynghorydd gyrfa ar gael yn yr ysgol. Gwnaeth apwyntiad gyda Liz i ofyn am gyfarwyddyd ychwanegol.

Dywedodd Ashlei, “Mae siarad â Liz wedi fy helpu i fireinio fy opsiynau. Fe wnaethon ni siarad am fanteision ac anfanteision pob opsiwn.

“Awgrymodd Liz i mi fynd i nosweithiau agored colegau, ac roedd y rheini wedi fy helpu i’n fawr iawn.”

Yn wreiddiol, roedd Ashlei wedi bod yn ystyried cwrs adeiladu. Fodd bynnag, ar ôl mynd i ddigwyddiad agored gyda'r nos yng Nghanolfan Peirianneg Gwerth Uchel Hive, darganfu ei bod hi’n frwdfrydig iawn dros chwaraeon moduro a pheirianneg awyrofod.

Roedd Liz hefyd wedi’i chefnogi i ddefnyddio gwefan Gyrfa Cymru ac archwilio gwybodaeth am golegau a phrentisiaethau, gan ei helpu i ddeall beth oedd pob opsiwn yn ei olygu.

Y camau nesaf

Ers hynny mae Ashlei wedi gwneud cais ac wedi cael ei derbyn ar gwrs BTEC Lefel 3 mewn peirianneg awyrofod yn y coleg.

Dywedodd, “Rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus nawr. Rwy'n teimlo bod gen i gynllun clir."

Ochr yn ochr â'r coleg, mae Ashlei yn bwriadu gwneud cais am brentisiaethau awyrofod pan fydd ceisiadau'n agor. Mae hi eisoes wedi mynd i ddigwyddiad gwybodaeth am brentisiaethau yng Nghanolfan Gyrfa Cymru yng Nghwmbrân.

Er iddi wneud cais am brentisiaeth o'r blaen, a doedd hi ddim yn llwyddiannus ar y pryd, mae hi'n parhau i fod yn bositif am gyfleoedd yn y dyfodol ac yn llawn cymhelliant amdanyn nhw.

Dywedodd, “Rwy’n ystyried gwneud cais am fwy o brentisiaethau pan fydd y ceisiadau ar gael. Felly croesi bysedd!”

Cyngor i bobl ifanc eraill

Mae Ashlei am i bobl ifanc eraill sy'n poeni am eu canlyniadau wybod ei bod hi'n iawn nad ydych chi’n gwybod yn union yr hyn yr hoffech chi ei wneud ar unwaith.

Dywedodd Ashlei, “Peidiwch â phoeni o gwbl. Mae gennych chi ddigon o amser. Dim ond yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf y darganfyddais i beth roeddwn i am ei wneud. 

“Mae pobl allan yna i'ch cynorthwyo chi, ac mae hynny’n helpu llawer.”

Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd â chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cysylltu â ni

Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth