Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Ben I

Ben

Gyda chymorth wedi’i deilwra, daeth Ben o hyd i’r cwrs coleg cywir ac mae’n teimlo’n fwy hyderus am ei ddyfodol.

Doedd Ben ddim yn siŵr beth i’w wneud ar ôl ei arholiadau TGAU. Ar y dechrau, roedd yn meddwl am fynd i’r chweched dosbarth. Ond ar ôl siarad â’i gynghorydd gyrfa, Sofia, sylweddolodd fod ganddo fwy o ddiddordeb mewn cwrs coleg Lefel 3 yn dylunio gemau cyfrifiadurol.

Dod o hyd i’r llwybr cywir

Mae Ben yn mwynhau argraffu 3D a chwarae gemau fideo, yn enwedig realiti rhithwir. Ar ôl clywed am ei ddiddordebau, awgrymodd Sofia gwrs datblygu gemau yn y coleg.

Dywedodd Ben: “Gofynnodd Sofia i mi am fy niddordebau, pa bynciau roeddwn i’n eu hoffi, a beth roeddwn i’n mwynhau ei wneud. Yna, rhoddodd argymhelliad i mi ar gyfer y cwrs rydw i’n ei wneud nawr. Esboniodd beth fyddai’n digwydd yno a sut i wneud cais. Roedd yn swnio’n berffaith i mi.”

Gwnaeth Sofia hefyd yn siŵr bod Ben yn gwybod at ble i droi pe bai angen help arno.

Dywedodd Ben: “Mae hi’n unigolyn neis iawn. Os byddwn i byth angen help, dywedodd hi y gallwn i fynd ati hi.”

Arweiniad trwy newidiadau

Roedd Ben, sy’n awtistig, o’r farn bod y gefnogaeth yn arbennig o werthfawr.

Esboniodd ei dad, Peter: “Llwyddodd Sofia i gael Ben i roi gwybod am ei hobïau a’i ddiddordebau, er ei fod yn eithaf mewnblyg ac nad yw’n dweud llawer. Gan ei bod hi’n adnabod y colegau lleol mor dda, roedd hi’n gwybod bod y cwrs hwn yn bodoli ac yn gallu ei awgrymu. Ar y pryd, dim ond am y chweched dosbarth a Safon Uwch yr oedden ni’n meddwl. Ond roedd hwn yn opsiwn hollol wahanol a oedd yn addas iawn iddo mewn gwirionedd

“Mae hi wedi bod yn wych. O’r cyfarfod cyntaf hyd at iddo ddechrau yn y coleg, mae hi wedi cadw mewn cysylltiad. Dros yr haf, fe wnaeth hi gysylltu a chyfrif lawr at ddiwrnod y canlyniadau gyda ni. Ar adegau, roeddwn i’n teimlo ei bod hi yr un mor gyffrous ag yr oeddwn i. Mae hi wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl.”

Tynnodd Peter sylw hefyd at ba mor bwysig oedd y gefnogaeth yn ystod y cyfnod pontio o’r ysgol: “I bobl ifanc awtistig, gall newid fod yn anodd, yn enwedig wrth symud o’r ysgol i’r coleg. Helpodd Sofia i baratoi’r llwybr hwnnw. Gweithiodd yn dda gyda’r ysgol, gyda ni fel rhieni, a gyda’r coleg. Gwnaeth hi wahaniaeth mawr.”

Edrych tua’r dyfodol

Mae Ben wedi dechrau ei gwrs datblygu gemau ac mae’n ei fwynhau. Mae’n gobeithio symud ymlaen i lefelau uwch yn y dyfodol ac yn y pen draw gweithio yn y diwydiant gemau a modelu 3D.

Dywedodd Ben: “Mae wedi rhoi rhywbeth i mi rydw i wir yn ei fwynhau ac eisiau ei wneud fel gyrfa. Mae wedi fy rhoi ar lwybr clir.”

Cyngor i eraill

Pan ofynnwyd iddo pa gyngor y byddai’n ei roi i bobl ifanc eraill, dywedodd Ben: “Gweithiwch drwy eich diddordebau. Edrychwch ar beth y gallech mwynhau ei wneud mewn gwahanol feysydd. Ond hefyd, peidiwch â dewis un peth yn unig ond cael opsiynau wrth gefn.”

Ychwanegodd ei dad: “Fel rhiant, alla i ddim canmol y gefnogaeth ddigon. Mae Gyrfa Cymru wedi bod yn wych i Ben, ac mae wedi rhoi hyder i ni ei fod ar y trywydd iawn.”

Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.


Archwiliwch

Rhieni

Sicrhewch fod gwybodaeth, adnoddau ac awgrymiadau gyda chi i helpu'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa a dysgu mwy am y gefnogaeth a gynigir gennym wrth i'ch plentyn fynd o addysg i gyflogaeth.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth