Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Frankie

Staff salon yn dangos i brentisiaid sut i dorri gwallt cwsmer

Roedd cymorth pwrpasol wedi galluogi Frankie i ddechrau ei gyrfa ddelfrydol.

Cafodd Frankie, 16 oed, ei haddysgu yn y cartref tra oedd hi'n ofalwr i'w mam a'i thad. Yn anffodus, collodd ei thad yn ystod hydref 2023.

Wrth alaru, teimlai Frankie awydd i edrych ar yr opsiynau oedd ganddi hi ar gyfer ei dyfodol.

Dywedodd: “Ar ôl i mi golli fy nhad i, roeddwn i’n teimlo bod arnaf angen rhywbeth i’w wneud gan fy mod i adref drwy’r dydd. Roeddwn i’n gofalu am fy mam i, ond roedd gen i gymaint o amser i feddwl pa mor drist roeddwn i’n teimlo.”

Pecyn cymorth

Cyfarfu Frankie â’r cynghorydd gyrfa Anita yng nghanolfan gyrfa Casnewydd. Buont yn trafod opsiynau Frankie, gan gynnwys ei huchelgeisiau i weithio ym maes trin gwallt.

Bu Anita hefyd yn helpu Frankie i wneud cais i sefyll rhai cymwysterau TGAU gyda'r awdurdod addysg lleol. Gwnaeth Anita sicrhau cymorth ychwanegol i Frankie i’w helpu i ddeall gofynion yr arholiadau ac er mwyn rhoi offer ac adnoddau ar-lein iddi i baratoi.

Yn ogystal â hyn, cyflwynodd Anita atgyfeiriad am gymorth i ofalwyr ifanc trwy elusen Barnardo’s.

Y camau nesaf

Roedd Frankie yn awyddus iawn i fynd i’r coleg yng Nghasnewydd i wneud cwrs trin gwallt Lefel 1. Pan gynhalion nhw ddiwrnod agored, anogodd Anita y coleg i ddarparu slot amser ar gyfer pobl ifanc a oedd wedi cael eu haddysgu yn y cartref.

Aeth Anita i ddigwyddiad y coleg gyda Frankie, lle cawson nhw gyfle i fynd ar daith dywys a siarad â thiwtoriaid. Roedd Frankie wrth ei bodd â'r cyfleusterau ac roedd hi’n awyddus iawn i ddechrau. Cafodd ei derbyn ar y cwrs yn fuan wedyn.

Mynegodd Frankie ddiddordeb hefyd mewn gwneud cais am gyflogaeth. Helpodd Anita hi i gwblhau CV. Cefnogodd Frankie i ddeall y broses o wneud cais am swyddi a phrentisiaethau.

Llwyddiant y brentisiaeth

Cysylltodd Frankie ag Anita i gael cymorth i benderfynu ar ei chamau nesaf pan gafodd gynnig cyfweliad am brentisiaeth mewn siop trin gwallt leol.

Eglurodd hi: “Gwelais fod y salon yn hysbysebu ar Facebook am ragor o steilwyr a steilwyr iau. Felly anfonais i neges atyn nhw gyda fy CV a gwnaethon nhw gysylltu â fi yn dweud y bydden nhw’n hoffi cyfweld â fi.”

Dywedodd Anita: “Roedd Frankie’n cloffi rhwng dau feddwl ynghylch a oedd hi eisiau gwneud cais am hyn neu fynd i’r coleg gan fod hi’n benderfynol am fynd i’r coleg. Buon ni’n trafod pwysigrwydd cadw opsiynau ar agor. Buon ni hefyd yn siarad am y pethau cadarnhaol am fynd i gyfweliad, a pha mor ddefnyddiol fyddai deall beth fyddai’n ei olygu pe na bai’n cael y swydd.”

Yn dilyn y cyfweliad, cynigiwyd cyfnod prawf i Frankie yn y siop trin gwallt. Ar ôl cwblhau’r cyfnod prawf, llwyddodd Frankie i sicrhau prentisiaeth.

Dywedodd Frankie: “Mae’n mynd rhagddo’n dda iawn. Helpodd Anita gymaint gyda fy hyder i, a helpodd fi i ystyried dyfodol gwell. Rydw i mor falch am gael dysgu sut i fod yn steilydd gwallt, a fydd hyn yn fy helpu i i gael swydd yn y maes trin gwallt.”

Ychwanegodd Anita: “Yn bersonol, rydw i wedi mwynhau gallu cael effaith gadarnhaol ar fywyd Frankie a’i helpu i gyflawni ei nodau.”


Efallai y byddech hefyd yn hoffi