Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Isabelle

Isabelle

Helpodd cymorth gyrfa Isabelle i deimlo’n llai pryderus ac yn fwy hyderus am ei dyfodol.

Ym Mlwyddyn 10, doedd Isabelle o Gaerdydd ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf. Roedd hi’n teimlo’n bryderus am y chweched dosbarth a’i hopsiynau ôl-16.

Dywedodd Isabelle: “Doeddwn i ddim yn siŵr iawn pa bynciau Safon Uwch ddylwn i eu gwneud, pa chweched dosbarth fyddai orau i mi, na beth oedd ei angen arna i ar gyfer y brifysgol.”

Dyna pryd y cyfarfu â Nick, cynghorydd gyrfa ei hysgol.

Dywedodd: “Daeth Nick i mewn i’n grŵp blwyddyn ac esboniodd y cyfan. Os nad oeddech chi’n gwybod beth roeddech chi eisiau ei wneud, gallech chi fynd i siarad ag ef. Roedd yn ddefnyddiol iawn.”

Cyngor un-i-un

Ym Mlwyddyn 11, dechreuodd Isabelle sesiynau un-i-un gyda Nick.

Dywedodd Isabelle: “Doedd gen i ddim syniad beth ddylwn i ei wneud ar ôl ysgol. Roeddwn i’n teimlo mor unig. Ond gwnaeth Nick i mi sylweddoli nad oeddwn i ar fy mhen fy hun a bod cymaint mwy o opsiynau. Gwnaeth i mi deimlo’n llai pryderus ynglŷn â gadael yr ysgol.”

Gam wrth gam, gwnaeth Nick helpu Isabelle i fagu hyder.

Dywedodd: “Dechreuodd gyflwyno’r syniad o’r chweched dosbarth i mi’n araf bach. Gwnaeth i’r cyfan ymddangos yn hawdd ac yn hwylus. Roedd yn swnio’n llawer llai brawychus.”

“Aeth drwy’r holl ysgolion gwahanol yn ein hardal a’m helpu i benderfynu pa un fyddai’n gweddu orau. Dangosodd i mi pryd oedd diwrnodau agored yn cael eu cynnal a phethau fel ’na.

Gyda chymorth Nick, penderfynodd Isabelle astudio seicoleg, bioleg, hanes, ac addysg grefyddol. 

Teimlo’n hyderus am y dyfodol

Mae Isabelle yn teimlo’n llawer mwy cadarnhaol am ei dyfodol nawr. Mae hi’n gobeithio gwneud gradd mewn seicoleg. Hoffai weithio mewn rôl sy’n helpu pobl ac yn cefnogi cymunedau. Dywedodd: “Helpodd Nick fi i benderfynu ble yw’r lle gorau i mi, pa raddau oedd eu hangen arna i, a beth ddylwn i ei wneud gyda fy nyfodol.”

“Rwy’n teimlo’n llawer gwell amdano nawr oherwydd bod gen i gymorth ac rwy’n gwybod i ble alla i fynd. Rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus am fy nyfodol."

Cyngor i eraill

Pan ofynnwyd iddi beth fyddai’n ei ddweud wrth bobl ifanc eraill sy’n teimlo’n bryderus am eu dyfodol, dywedodd Isabelle: “Byddwn i’n dweud wrthyn nhw i siarad â Gyrfa Cymru a gwybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Mae cymaint o gefnogaeth maen nhw’n gallu ei gynnig.”

Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.


Archwiliwch

Gemau gwneud penderfyniadau

Rhowch gynnig ar ein gemau gwneud penderfyniadau i ddysgu mwy am eich steil o wneud penderfyniadau, ac i wella eich sgiliau gwneud penderfyniadau.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth