Cynghorydd gyrfa ysgol yn helpu Kian gyda’i lwybr gyrfa
Roedd Kian, myfyriwr 16 oed o Ystrad Mynach, yn cael trafferth penderfynu a oedd am fynd i’r coleg llawn amser neu wneud brentisiaeth. Roedd yn awyddus i ddilyn cwrs mewn plastro ond roedd hefyd eisiau dechrau gweithio a chael profiad ymarferol.
Cymorth gan Gyrfa Cymru
Roedd Lisa, sy’n gynghorydd gyda Gyrfa Cymru, yn ysgol Kian i helpu myfyrwyr i feddwl am eu llwybrau gyrfa yn y dyfodol ac i archwilio opsiynau gwahanol. Ar ôl eu cyfarfod cyntaf, gofynnodd Kian am gael sesiynau un-i-un gyda Lisa.
Dywedodd Kian: “Roedd Lisa yn help mawr. Dangosodd hi i fi sut i ddefnyddio gwefan Gyrfa Cymru, siaradodd hi â fi am wahanol opsiynau gyrfa, a gwnaeth hi hyd yn oed dangos rai taflenni a sleidiau i fi am y coleg a phrentisiaethau. Gwnaeth hi i fi deimlo’n fwy hyderus am fy newisiadau.”
Gyda chymorth Lisa, gwnaeth Kian gais llwyddiannus am y cwrs plastro yng Ngholeg y Cymoedd. Ochr yn ochr â’i gwrs, trefnodd hefyd brofiad gwaith gyda chwmni lleol.
Cyngor i eraill
Dywedodd, “Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud, siaradwch â’ch cynghorydd gyrfa. Maen nhw wir yn gallu eich cyfeirio chi i’r cyfeiriad cywir.”
Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw. Rydyn ni yma i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r llwybr sy’n iawn i chi.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra byddwch chi’n gweithio ac yn ennill cyflog. Chwiliwch am brentisiaethau yn eich ardal chi, dysgwch am brentisiaethau a lefelau prentisiaeth, a mynnwch gyngor ar sut i wneud cais.

Cewch wybodaeth am eich dewisiadau gyrfa ar ôl eich TGAU.

Eich canllaw i ddewis eich pynciau, cyrsiau, hyfforddiant a chyllido eich astudiaethau.