Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Stori Olivia

Olivia dal i fyny gwialen ddur

Yn dilyn cymorth gan gynghorydd gyrfa, mae Olivia yn ffynnu mewn prentisiaeth peirianneg.

Dewis arall yn lle’r chweched dosbarth

Roedd Olivia, 17 oed, yn gwybod nad oedd hi eisiau parhau yn yr ysgol i’r chweched dosbarth. Siaradodd â Vicky, ei chynghorydd gyrfa yn yr ysgol, i gael deall yr opsiynau eraill a oedd ar gael iddi.

Yn ystod sawl sesiwn gyda’i gilydd, bu Vicky yn cynorthwyo Olivia i archwilio ei hoff bethau a’i chas bethau. Buont yn edrych ar rolau gyrfaoedd a allai fod yn addas iddi hi a thrafod y cymwysterau y byddai eu hangen arni ar gyfer y rolau hynny.

Dywedodd Olivia: “Tawelodd Vicky fy meddwl, nad oedd yn rhaid i fi fynd i’r chweched dosbarth yn gyntaf cyn gwneud prentisiaeth. Helpodd hi fi i sylweddoli y gallwn i fynd yn syth i mewn i brentisiaeth, ac roedd hyn yn rhyddhad enfawr.”

Cadarnhau’r camau nesaf

Aeth Olivia ymlaen i ddweud: “Roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gwneud prentisiaeth. Roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau mynd i’r coleg ac astudio pwnc penodol.

“Defnyddiais y dulliau y dangosodd Vicky i mi i ddod o hyd i gyfleoedd. Roedd hyn yn cynnwys Chwilio am Brentisiaethau ar wefan Gyrfa Cymru.”

“Drwy hyn des i o hyd i’r brentisiaeth peirianneg yn Qioptiq ac roeddwn i eisiau gwneud cais.”

Cynorthwyodd Vicky Olivia i ddatblygu ei CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y rôl. Bu hefyd yn helpu gyda pharatoi ar gyfer cyfweliad. 

Creu peiriannydd 

Dechreuodd Olivia ei phrentisiaeth ar ôl gorffen yn yr ysgol yn ystod haf blwyddyn 11. Mae hi wedi bod yn mynd o nerth i nerth ers hynny.

Dywedodd hi: “Doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud. Rwy’ wedi sylweddoli nawr bod hyn yn rhywbeth rwy’n ei fwynhau’n fawr.”

Hoffai Olivia i bobl ifanc eraill wybod bod opsiynau eraill y gallant eu cymryd ar ôl ysgol. Ychwanegodd: “Peidiwch â bod ofn archwilio opsiynau eraill. Does dim rhaid i chi wneud yr hyn y mae eich ffrindiau yn ei wneud.”

Os hoffech chi archwilio’ch diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.