Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Taylor

Taylor

Llwyddodd Taylor i gael prentisiaeth peirianneg gyda Wales & West Utilities oherwydd ei hoffter o bynciau STEM.

Mae Taylor Hoskins, sy’n 22 oed ac yn dod o Sgiwen, wrthi’n cwblhau Prentisiaeth Trydanol ac Offerynnol dros gyfnod o dair blynedd, sy’n gyfuniad o astudio yn y coleg a gweithio ar safle’r cwmni.

Cafodd Wales & West Utilities ei gydnabod yn un o Bartneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru am weithio gydag ysgolion i ysbrydoli gweithlu’r dyfodol.

O brentisiaeth i waith amser llawn

Dyma ragor o wybodaeth am brofiad Taylor, yn ei geiriau ei hun:

Gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) oedd fy hoff bynciau pan oeddwn yn yr ysgol.

“Ar gyfer fy mhrofiad gwaith penderfynais wneud cais i Wales & West Utilities er mwyn gallu gweld yn union beth sy’n digwydd yn y byd peirianneg go iawn.

“Mae fy nhad wastad wedi gweithio fel peiriannydd nwy, felly mae’n debyg mai hynny oedd yn gyfrifol am ennyn fy niddordeb yn y maes ers pan oeddwn i’n ddim o beth.

“Treuliais bythefnos o brofiad gwaith yn dilyn grŵp o beirianwyr o amgylch y safle gan fwynhau pob eiliad.

“Tra bod pawb arall yn yr ysgol yn gwneud cais am le yn y coleg, roeddwn i’n gwybod mai swydd ymarferol roeddwn i ei heisiau.

“Fe wnes i gais am brentisiaeth gyda Wales & West Utilities er mwyn i mi allu datblygu sgiliau newydd ac ennill cyflog.

“Rwy’n falch fy mod i wedi dilyn fy ngreddf a chael gyrfa sydd wrth fy modd – doeddwn i ddim yn fodlon setlo am ba bynnag swydd a oedd ar gael.

Mae pob diwrnod yn wahanol wrth weithio fel prentis ac rwy’n gweithio tuag at ennill cymhwyster ac yn cael fy nhalu ar yr un pryd.”

Cyngor i brentisiaid y dyfodol

Mae mwy na 1,300 o staff medrus yn gweithio i Wales & West Utilities, yn cludo nwy i gartrefi a busnesau ledled Cymru a de-orllewin Lloegr.

““Mae llu o gyfleoedd ar gael i ddynion a menywod gael prentisiaeth yn y diwydiant peirianneg ac rwy’n falch na chefais fy mherswadio i ddilyn gyrfa fwy traddodiadol.

“Byddwn yn annog y bobl ifanc hynny sy’n ystyried prentisiaethau i fynd ar drywydd eu diddordebau a cheisio cael cymaint o brofiad gwaith â phosibl.

“Fel prentis peirianneg benywaidd, rwy’n awyddus i barhau i weithio gydag ysgolion a dangos i ferched ifanc eraill bod llu o gyfleoedd ar gael.”

Os wyt ti yn yr ysgol ar hyn o bryd ac yn awyddus i ymchwilio i dy ddiddordebau a’r cyfleoedd sydd ar gael gyda chynghorydd gyrfa, siarada ag aelod o staff yr ysgol a all roi gwybod i ti sut i drefnu apwyntiad gyda chynghorydd yr ysgol. Mae croeso i ti neu dy riant neu ofalwr gysylltu â ni hefyd drwy ein ffonio am ddim ar 0800 028 4844, drwy e-bostio post@gyrfacymru.llyw.cymru neu drwy ein gwasanaeth sgwrs fyw.

Os wyt ti’n 16 oed neu’n hŷn ac yn awyddus i ymchwilio i’r cyfleoedd sydd ar gael gyda chynghorydd gyrfa, cysyllta â thîm Cymru’n Gweithio drwy ein ffonio am ddim ar 0800 028 4844, e-bostio workingwales@careerswales.gov.wales neu drwy ein gwasanaeth sgwrs fyw.

I edrych am gyfleoedd prentisiaeth, gelli chwilio a gwneud cais amdanynt drwy ein cyfleuster Chwilio am Brentisiaethau.


Archwilio