Fel rhieni chi yw’r dylanwadwyr allweddol. Edrychwch ar ein 3 prif awgrym i gefnogi eich plentyn os ydynt yn ystyried gadael y coleg.
1. Gwrando a bod yn gefnogol
Dewch i wybod y rhesymau pam mae eich plentyn eisiau gadael coleg. Efallai fod sawl rheswm, gan gynnwys:
- Cael syniad gyrfa newydd sydd ddim yn siwtio eu cwrs presennol
- Ddim yn mwynhau’r cwrs
- Ddim yn hoffi astudio’n llawn amser
- Methu setlo ym mywyd coleg
- Cael fod y cwrs yn rhy hawdd neu’n rhy anodd
- Bwlio
Gellir datrys rhai o’r rhesymau uchod er mwyn i’ch plentyn allu aros yn y coleg. Efallai y gallai newid i gwrs arall (os nad yw hi’n rhy hwyr) neu ostwng i lefel is neu gael rhagor o gymorth os yw’r cwrs yn rhy anodd.
Os nad yw astudio’n llawn amser yn apelio, yna gallai symud o gwrs amser llawn i brentisiaeth gyda’r un coleg, os yw hynny’n addas.
Beth bynnag yw’r rhesymau, gallwch ofyn am gymorth drwy siarad â thiwtor y coleg, gwasanaethau i fyfyrwyr / dysgwyr neu drwy gysylltu â Gyrfa Cymru i siarad â Chynghorydd Gyrfa.
2. Siarad am eich profiadau chi
Bydd gennych chi brofiadau cadarnhaol (a negyddol!) eich hunan o addysg a byd gwaith. Siaradwch â’ch plentyn am sut beth yw astudio neu weithio go iawn, er mwyn ei helpu i ddeall fod agwedd gadarnhaol i’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd, hyd yn oed os yw’n teimlo’n ofnus, yn ofidus neu dan bwysau nawr. Pethau fel:
- Gweithio neu fod mewn dosbarth gyda phobl nad ydych chi’n tynnu ymlaen â nhw – meddyliwch am y sgiliau a’r nodweddion sy’n cael eu magu gan y profiad hwn: gweithio gydag eraill, goddefgarwch, gwrando ar farn wahanol
- Os yw eich plentyn wedi newid ei syniad am yrfa – efallai nad yw’r cwrs presennol yn iawn ar hyn o bryd ond maent yn ennill sgiliau trosglwyddiadwy sy’n addas ar gyfer llawer o swyddi. Bydd cwblhau’r flwyddyn gyntaf yn rhoi cymhwyster neu gredydau iddynt, sicrwydd ac amser i archwilio’n llawn beth yw’r camau nesaf os ydynt dal yn penderfynu eu bod eisiau gadael
- Bwlio – er ei fod yn achosi straen a teimlad anghyfforddus i’ch plentyn, gall hyn gael ei ddatrys gyda chefnogaeth gan y coleg. Ni ddylai eich plentyn orfod aberthu ei addysg oherwydd person arall
Gallwch chi a’ch plentyn siarad â Gyrfa Cymru i gael cyngor ac arweiniad ar y camau nesaf a’r opsiynau gorau. Cysylltu â ni.
3. Bod yn barod. Cael cynllun
Os yw eich plentyn yn benderfynol ei fod eisiau gadael, yna mae’n bwysig cael cynllun ar waith ar gyfer y camau nesaf, er y byddem ni’n cynghori bob amser y dylai aros yn y coleg tan fod y cam nesaf yn ei le. Ymysg rhai dewisiadau sydd ar gael i’ch plentyn mae:
- Gwneud cais am Brentisiaeth
- Ymgeisio am Twf Swyddi Cymru+
- Dod o hyn i waith rhan amser neu lawn amser
- Gwirfoddoli neu brofiad gwaith
Pa bynnag un o’r opsiynau hynny sy’n apelio, gall Gyrfa Cymru drafod ac archwilio’r opsiynau a’r cyfleoedd ymhellach gyda chi a’ch plentyn. Cysylltwch â ni i wneud apwyntiad.
Cysylltwch am gyngor a chefnogaeth gyrfaoedd.
Archwilio'r opsiynau
Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra byddwch chi’n gweithio ac yn ennill cyflog. Chwiliwch am brentisiaethau yn eich ardal chi, dysgwch am brentisiaethau a lefelau prentisiaeth, a mynnwch gyngor ar sut i wneud cais.
Wyt ti rhwng 16-19 oed? Galli di gael hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd gwaith am dâl i dy helpu i allu llywio dy ddyfodol.
Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr a mwy.
Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill.