Mae hunangyflogaeth yn golygu eich bod yn gweithio i chi eich hun.
Sut beth yw bod yn hunangyflogedig?
Pam ydych yn hunangyflogedig:

Chi yw'r bos

Gallwch gyflogi pobl i weithio i chi

Gallwch reoli beth rydych yn ei wneud a’ch oriau gwaith

Efallai y byddwch yn gweithio llawer ar eich pen eich hun

Ni fyddwch yn ennill arian os ydych yn sâl neu ar wyliau
Sut alla i ddod yn hunangyflogedig?
Mae angen i chi gael:

Syniad busnes rydych chi’n meddwl fydd yn gweithio

Cynllun busnes i’ch helpu chi a phobl eraill i ddeall beth yw eich busnes

Arian i brynu offer ac i ddweud wrth bobl beth rydych chi’n ei wneud (hysbysebu)
Sut alla i gael cymorth i fod yn hunangyflogedig?
Mae'r rhain yn sefydliadau sy'n gallu eich helpu i sefydlu eich busnes eich hun. Edrychwch ar (bydd rhai o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig):