Mae gwirfoddoli’n golygu eich bod yn cael cyfle i helpu eraill. Ni fyddwch yn cael eich talu am wirfoddoli ond byddwch yn dysgu llawer o sgiliau ac yn cael llawer o brofiadau.
Gwyliwch y fideo
Beth alla i wirfoddoli i'w wneud?
Mae gwirfoddoli yn waith rydych chi’n ei wneud heb gael eich talu. Gallwch wirfoddoli am ddim ond ychydig oriau bob wythnos. Mae llawer o wahanol ffyrdd o wirfoddoli. Gallwch:
Helpu pobl hŷn gyda’u siopa
Garddio yn y gymuned leol
Mynd â chŵn am dro
Gweithio mewn siop elusen
Pam gwirfoddoli?
Efallai yr hoffech wirfoddoli er mwyn:
Cyfarfod pobl newydd a chodi eich hyder
Dysgu sgiliau newydd a fydd yn helpu os byddwch eisiau gwneud cais am swydd
Gwneud gwahaniaeth yn eich ardal leol
Sut alla i gael gwybod mwy?
Gallech:
- Siarad gyda'ch rhieni a'ch gofalwyr
- Drafod hefo'ch Cynghorydd Gyrfa, Athrawon neu pobl eraill sy'n eich cefnogi
- Ddefnyddio gwefannau i wybod sut i wirfoddoli yn eich ardal (edrychwch ar y gwefannau isod)
Dolenni defnyddiol
(Mae rhai o'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)