Rydym yn recriwtio ar gyfer Swyddog Cyfathrebu.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG) yn is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau cyfarwyddyd ac anogaeth gyrfa sydd yn hanfodol, annibynnol, diduedd a dwyieithog i bob oed yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen Cymru’n Gweithio.
Amlinelliad o'r swydd
Cefnogi datblygiad ystod o weithgareddau cysylltiadau cyhoeddus, cyfathrebu a materion cyhoeddus er mwyn codi proffil Gyrfa Cymru a’i gwasanaethau, gweithgareddau a chyflawniadau yn fewnol ac o fewn y cyfryngau, yn ogystal ag ymhlith rhanddeiliaid allweddol.
Cyflog
Gradd 4 – £27,539 – £33,171 (y cyflog cychwynnol fydd £27,539)
Cytundeb
Parhaol
Oriau gwaith
Amser llawn 37 awr yr wythnos
Lleoliad
I'w gadarnhau ar benodiad
Dyddiad Cau
09:00am ar 17 Mai 2023
Gofynion / Cymwysterau
Rhaid i ymgeiswyr fod â chymwysterau graddedig neu safon gyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol megis cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth neu farchnata. Rhaid i chi allu dangos sgiliau cyfathrebu rhagorol (yn ysgrifenedig ac ar lafar) a bod â phrofiad amlwg mewn rôl cysylltiadau cyhoeddus / cyfathrebu berthnasol.
Gwybodaeth arall
Buddiannau deniadol, gan gynnwys amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, gweithio hybrid, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl yn ymwneud ag iechyd.
Rydym fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn gyffredinol yn hapusach, ac wrth gwrs – dyna'r peth iawn i'w wneud.
Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn drawsnewidiol, gan gyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol, yn galluogi gwelliannau parhaus yn yr hyn a wnawn ar gyfer pobl Cymru. Rydym wedi ymrwymo i gael gweithlu sydd, ar bob gradd swydd, yn cynrychioli'r dinasyddion yr ydym yn eu gwasanaethu.
Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhywedd a statws trawsryweddol, hil neu ethnigrwydd, crefydd a chred (gan gynnwys dim cred), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu gyfeiriadedd rhywiol.
Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy'n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy'n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau wrth recriwtio ac yn cael ei drosglwyddo drwy ein holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’n gwaith – yn cefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.
Sut i ymgeisio
Cwblhewch y ffurflen gais, ffurflen Asesiad Iaith Gymraeg (os ydych yn siarad Cymraeg ac yn gallu cyflawni dyletswyddau’r swydd drwy gyfrwng y Gymraeg) a ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal ac anfonwch at: ad@gyrfacymru.llyw.cymru.
Mi fydd y broses asesu a chyfweld yn cael ei gynnal yn ddigidol.
Sylwer na fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai Saesneg.
Am wybodaeth ar sut y mae eich data’n cael ei storio a’i ddefnyddio ewch i’n tudalen Hysbysiad Preifatrwydd.