Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Deddfwriaeth ac asiantaethau sy’n cynnig cymorth

Mae deddfwriaeth ac asiantaethau allweddol sy'n cefnogi pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a'u teuluoedd.

Deddfwriaeth

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg Cymru 2018 (ALNET) yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth.

 

Cyflwynwyd y Ddeddf ALNET i:

  • Wneud darpariaeth ar gyfer fframwaith statudol newydd er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • Creu proses integredig, gydweithredol o asesu, cynllunio a monitro sy’n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol
  • Creu system deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor, ac ar gyfer datrys pryderon ac apeliadau

Mae mwy o wybodaeth am y Ddeddf ALNET ar gael ar Cod Dysgu Ychwanegol Cymru 2021.

Pryd fydd y Ddeddf yn cael ei gweithredu?

Mae'r Ddeddf yn cael ei gweithredu dros nifer o flynyddoedd gyda phawb yn symud draw i'r system newydd erbyn mis Awst 2025.

Dysgwch fwy am y System Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): canllaw i rieni a theuluoedd ar llyw.cymru.

Mae yna gynlluniau i gynhyrchu cynllun gweithredu ar gyfer pobl ifanc 16 oed a throsodd sydd mewn addysg. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y Ddeddf ALNET  i’w chael ar llyw.cymru.

Sut fydd hyn yn effeithio ar fy mhlentyn?

Gallwch weld y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i esbonio sut y bydd y Ddeddf yn effeithio ar bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Dolenni defnyddiol eraill

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016. Mae hyn yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella lles pobl sydd angen gofal a chymorth, gan gynnwys gofalwyr Hawliau'r Plentyn y Cenhedloedd Unedig (Saesneg yn unig). Mae hyn yn amlinellu hawliau pob plentyn, waeth bynnag eu hil, eu crefydd neu eu gallu.


Asiantaethau cymorth

Mae rhai o'r sefydliadau mwy wedi'u rhestru isod. (Mae rhai o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig). Siaradwch â Chynghorydd Gyrfa i gael gwybod mwy am sefydliadau lleol eraill a allai ddarparu cymorth.

Pobl ag anableddau

Mae asiantaethau cymorth yn cynnwys:

  • Mae SNAP Cymru yn gweithio gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol er mwyn sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn cael eu nodi a bod darpariaeth ar gael i’w helpu i gyflawni eu potensial
  • Mae Scope Cymru yn cynnig gwybodaeth gyfrinachol, cyngor a chymorth i bobl anabl, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru ar faterion amrywiol. I gael gwybodaeth am anabledd ffoniwch 0808 800 3333
  • Contact a Family Cymru. Elusen sy’n gweithio ar draws Cymru yw Contact a Family Cymru ac mae’n cefnogi teuluoedd plant ag anableddau neu anghenion ychwanegol, waeth beth yw eu cyflwr neu anabledd. Mae Contact a Family Cymru yn Llinell gymorth rhadffôn: 0808 808 3555
  • Learning Disability Wales. Elusen genedlaethol sy’n cynrychioli’r sector anableddau dysgu yng Nghymru yw Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru. Mae’n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, y llywodraeth a’r sector gwirfoddol i greu Cymru well i bobl ag anabledd dysgu
  • Mae Plant yng Nghymru yn darparu gwasanaethau i’r rhai sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Maent yn ceisio gwella bywydau pob un ohonynt, ond yn arbennig y rhai sydd wedi’u heffeithio gan ansefydlogrwydd teuluol, tlodi ac amddifadedd neu sydd ag anghenion arbennig/anableddau
  • Mencap Cymru. Elusen ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Maent hefyd yn cefnogi teuluoedd a gofalwyr. Eu nod yw newid y byd i bawb ag anabledd dysgu
Pobl ifanc gydag ADY sy'n chwilio am waith

Mae asiantaethau cymorth yn cynnwys:

  • Agoriad Cyf. Darparwr recriwtio a hyfforddiant arbenigol yw Agoriad Cyf. Mae’n helpu pobl i gael mwy o annibyniaeth a gwireddu eu potensial yn y gweithle
  • Elite (dolen Saesneg yn unig). Elusen sy’n gweithio gyda phobl ag anableddau neu’r rhai o dan anfantais ar draws De a De-orllewin Cymru yw Elite. Mae Elite yn cefnogi pobl gyda chyfleodd galwedigaethol, hyfforddiant a chyflogaeth drwy annibyniaeth
  • Remploy. Fel darparwr gwasanaethau cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru, cenhadaeth Remploy yw helpu a chefnogi pobl anabl i gael gwaith, a gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau eu bod yn gallu recriwtio, cadw a chynnal unigolion
  • Shaw Trust. Mae Shaw Trust yn cefnogi pobl anabl a phobl o dan anfantais i gael gwaith drwy Dewis Gwaith neu’r Rhaglen Waith.  Mae’r cymorth yn cynnwys help i baratoi ar gyfer gwaith, help gyda chyflogaeth a rheoli anabledd
  • Access to Work. Rhaglen cymorth cyflogaeth sydd wedi’i ariannu’n gyhoeddus yw Mynediad at Waith. Ei nod yw ceisio helpu pobl anabl i gael swydd neu i aros mewn gwaith.  Mae’n gallu  darparu cymorth ymarferol ac ariannol i bobl ag anabledd neu gyflyrau corfforol neu iechyd meddwl hirdymor
Pobl ar y Sbectrwm Awtistig a phobl sydd ag anawsterau dysgu penodol

Mae asiantaethau cymorth yn cynnwys:

  • Elusen yw National Autistic Society Cymru sy’n gweithio ar draws Cymru gyfan i ddarparu gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau ac ymgyrchu dros fyd gwell i bobl ag awtistiaeth (gan gynnwys syndrom Asperger), eu teuluoedd a’u gofalwyr yw Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru
  • Mae Awtistiaeth Cymru yn codi ymwybyddiaeth o Awtistiaeth drwy  ddatblygu polisi, darparu gwybodaeth, gwasanaeth cymorth a chyngor a hyfforddi gweithwyr proffesiynol
  • Mae'r British Dyslexia Association yn cynnig cyngor a chymorth i unigolion, sefydliadau’r trydydd sector, cyrff cyhoeddus a busnesau preifat
Cymorth ar gyfer pobl â nam ar y synhwyrau

Mae asiantaethau cymorth yn cynnwys:

Mae Action on Hearing Loss Cymru(external websiteCY) yn darparu cymorth i bobl sy’n fyddar, pobl â nam ar eu clyw a thinitws. Maent yn darparu cyngor, gofal a gwasanaethau cymorth, gwasanaethau cyfathrebu a hyfforddiant.

The National Deaf Children’s society(external websiteCY). Mae’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn rhoi cymorth arbenigol ar fyddardod i blant, mae’n codi ymwybyddiaeth ac yn ymgyrchu dros hawliau plant byddar, er mwyn iddynt allu cael yr un cyfleoedd â phawb arall.

The Royal National Institute of Blind People(external websiteCY) (RNIB). Mae RNIB Cymru yn darparu gwasanaethau a chymorth i bobl ddall a phobl rhannol ddall ar hyd a lled Cymru.  Mae hefyd yn ymgyrchu dros welliannau i wasanaethau er mwyn helpu i atal pobl rhag colli eu golwg yn ddiangen.


Efallai i chi hefyd hoffi