Mae ein Cynghorwyr Gyrfa yn gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion, colegau ac yn y farchnad lafur. Mae ein gwasanaethau yn rhad ac am ddim ac yn ddiduedd.
Mae rhai o'r ffyrdd y gallwn eich helpu yn cynnwys:
Cyfweliad cyfarwyddyd
Gall cyfarfod â chynghorydd gyrfa helpu'ch plentyn i ddysgu mwy am eu syniadau gyrfa a'r opsiynau sydd ar gael iddyn nhw. Gall cynghorwyr gefnogi pobl ifanc ag anghenion ychwanegol i wneud ceisiadau a, lle bo angen, gallan nhw nodi anghenion cymorth parhaus ac eirioli ar ran eich plentyn.
Gall cyfweliad cyfarwyddyd helpu hefyd gyda:
- Chymhelliant - helpu'ch plentyn i baratoi ar gyfer newid a mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau posibl
- Gwneud Penderfyniadau - cefnogi'ch plentyn i wneud penderfyniadau gwybodus
- Hunan ymwybyddiaeth - datblygu ymwybyddiaeth eich plentyn o'u diddordebau, eu hanghenion a'u galluoedd
- Ymwybyddiaeth o gyfle - datblygu gwybodaeth eich plentyn am y farchnad lafur
- Ceisiadau - helpu'ch plentyn i gael mynediad i gyfleoedd a gwneud ceisiadau
- Cydnerthedd - cefnogaeth i reoli anawsterau a delio â chyfnodau pontio
Mynychu cyfarfodydd cynllunio pontio
Os ydych plentyn yn yr ysgol neu'r coleg a bod ganddyn nhw Gynllun Datblygu Unigol (CDU) neu Ddatganiad Anghenion Addysgol Arbennig, byddan nhw’n cael adolygiad blynyddol o'r ddogfen honno a'r cymorth a ddarperir. Mae’n bosibl y gwahoddir Cynghorwyr Gyrfa i’r adolygiadau hynny i amlinellu opsiynau a chefnogi’ch plentyn gyda’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Cefnogi pontio
Os oes gan eich plentyn Gynllun Datblygu Unigol, gall yr ysgol neu'r awdurdod lleol rannu'r CDU gyda'r darparwr newydd fel eu bod yn ymwybodol o anghenion cymorth eich plentyn. Bydd Gyrfa Cymru ond yn rhannu gwybodaeth am anghenion eich plentyn gyda'u caniatâd nhw.
Os ydych plentyn ym mlwyddyn 14 yn yr ysgol (18 a19 oed) a'u bod yn bwriadu mynd i ddysgu pellach neu Twf Swyddi Cymru+ gall y Cynghorydd Gyrfa ysgrifennu Cynllun Dysgu a Sgiliau. Mae hon yn ddogfen sy'n amlinellu eu hanghenion addysg a hyfforddiant ac yn nodi'r cymorth sydd ei angen i ddiwallu'r anghenion hynny. Gall y Cynghorydd Gyrfa rannu'r ddogfen hon gyda'r darparwr newydd, fel eu bod yn ymwybodol o'r hyn sydd angen ei roi ar waith.
Cefnogaeth i'r rhai yn y farchnad lafur
Os ydych plentyn eisoes wedi gadael addysg ac yn chwilio am waith gall ein tîm Cymru'n Gweithio helpu. Gallan nhw ddarparu cyfarwyddyd gyrfaoedd a chefnogaeth cyflogadwyedd. Gallan nhw helpu pobl ifanc i ysgrifennu CV, chwilio am swyddi a gwneud cais am swyddi gwag.
Gall pob un o’n cynghorwyr hefyd helpu eich plentyn i drefnu ymweliadau â darparwyr, siarad â darparwyr am eu hanghenion cymorth a chyfeirio at asiantaethau eraill a allai helpu hefyd.