Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Adolygiad Cynllun Datblygu Unigol

Dysgwch fwy am y Cynllun Datblygu Unigol (CDU) a sut y gallwch baratoi ar gyfer yr adolygiad

Os oes gan eich plentyn CDU neu Ddatganiad Anghenion Addysgol Arbennig, byddan nhw’n cael adolygiad blynyddol o'r ddogfen honno ynghyd â'r cymorth a ddarperir. Mae’n bosibl y gwahoddir Cynghorwyr Gyrfa i’r adolygiadau hynny i amlinellu opsiynau a chefnogi’ch plentyn gyda’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Os oes gan eich plentyn CDU, gall yr ysgol neu'r awdurdod lleol rannu'r CDU gyda'r darparwr newydd fel eu bod yn ymwybodol o anghenion cymorth eich plentyn. Bydd Gyrfa Cymru ond yn rhannu gwybodaeth am anghenion eich plentyn gyda'u caniatâd nhw.

Os ydych plentyn ym mlwyddyn 14 yn yr ysgol (18 a 19 oed) a'u bod yn bwriadu mynd i ddysgu pellach neu Twf Swyddi Cymru+ gall y Cynghorydd Gyrfa ysgrifennu Cynllun Dysgu a Sgiliau. Mae hon yn ddogfen sy'n amlinellu eu hanghenion addysg a hyfforddiant ac yn nodi'r cymorth sydd ei angen i ddiwallu'r anghenion hynny. Gall y Cynghorydd Gyrfa rannu'r ddogfen hon gyda'r darparwr newydd, fel eu bod yn ymwybodol o'r hyn sydd angen ei roi ar waith.

Paratoi ar gyfer adolygiad CDU

Siaradwch â'ch plentyn am sut mae pethau'n mynd yn yr ysgol neu'r coleg ac am eu syniadau ar gyfer y dyfodol. Meddyliwch am y cwestiynau yr hoffech eu gofyn yn yr adolygiad. Dyma rai pynciau i'ch helpu i ddechrau:

Coleg

Gallwch ofyn y cwestiynau hyn os yw’ch plentyn yn ystyried mynd i’r coleg ar ôl gadael yr ysgol neu os ydyn nhw eisoes yn y coleg:

Yn y coleg nawr

Gofynnwch gwestiynau fel:

  • Pa gymwysterau fydd gan fy mhlentyn pan fyddan nhw’n gadael y coleg?
  • Gallen nhw aros ar y cwrs hwn ar ôl y flwyddyn hon?
  • Sut mae'r coleg yn paratoi pobl ifanc ar gyfer gadael?
  • A fydd unrhyw gyfleoedd profiad gwaith cyn iddyn nhw adael y coleg?
  • Pa gefnogaeth mae fy mhlentyn yn ei chael?

Yn yr ysgol nawr ond eisiau mynd i'r coleg

Gofynnwch gwestiynau fel:

  • Gall fy mhlentyn ymweld â'r coleg cyn mynychu i weld sut brofiad yw hyn?
  • Sut mae fy mhlentyn yn gwneud cais am le yn y coleg?
  • Pa gefnogaeth fydd gan fy mhlentyn yn y coleg?

Cynllunio ar gyfer y dyfodol

Rhai cwestiynau i'ch helpu chi a'ch plentyn i ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol:

  • Dydw i ddim yn gwybod digon am gyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Sut alla i ddysgu mwy?
  • Mae gan fy mhlentyn gefnogaeth yn yr ysgol a'r coleg. Gallen nhw gael cymorth os ydyn nhw’n mynd i mewn i'r gwaith neu opsiynau eraill?
  • Beth yw Twf Swyddi Cymru+ a hyfforddiant?
  • Sut ydych chi’n cael prentisiaeth, ac a all pobl ifanc gael cymorth ychwanegol wrth ddilyn rhain?
  • Sawl diwrnod yr wythnos yw Twf Swyddi Cymru+ neu'r ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol?
  • Mae fy mhlentyn eisiau cael swydd ond mae angen help arnyn nhw. Pa gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw?
  • Am ba mor hir gall person ifanc aros yn yr hyfforddiant?
  • Beth fydd yn digwydd i unrhyw fudd-daliadau y maen nhw’n eu derbyn pan fyddan nhw’n symud ymlaen o'r ysgol neu'r coleg?
  • Pa gefnogaeth ymarferol fyddwn ni’n ei gael i wneud yn siŵr bod y broses o symud o’r ysgol neu’r coleg yn llwyddiannus?
  • Beth yw cymorth cyflogaeth?

Trafnidiaeth

Rhai cwestiynau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth y gallech eu gofyn:

  • Pan fydd fy mhlentyn yn gadael y coleg sut byddan nhw’n cyrraedd y ddarpariaeth hyfforddiant, y gwaith neu wasanaethau cymdeithasol?
  • A oes unrhyw gymorth ar gyfer teithio i hyfforddiant i helpu fy mhlentyn i ddysgu sut i deithio'n annibynnol?
  • Os oes cefnogaeth ar gyfer trafnidiaeth, sut ydw i'n cael mynediad at hyn?

Darpariaeth gwasanaethau cymdeithasol

Cwestiynau’n ymwneud â darpariaeth gwasanaethau cymdeithasol y gallech eu gofyn:

  • Pa fath o weithgareddau y gallai fy mhlentyn eu gwneud gyda'r gwasanaethau cymdeithasol?
  • Sawl diwrnod yr wythnos gallen nhw gael mynediad?
  • Gyda pha grwpiau oedran fydden nhw?
  • Beth fydd yn digwydd os oes gan fy mhlentyn broblemau meddygol y mae angen eu cefnogi yn ystod y dydd?
  • Sut mae cael rhagor o wybodaeth am fyw â chymorth neu fyw'n annibynnol?
  • A oes unrhyw fudd-daliadau neu grantiau ar gael?
  • Mae gan fy mhlentyn weithiwr cymdeithasol ar hyn o bryd. A fydd ganddyn nhw weithiwr cymdeithasol o hyd pan fyddan nhw’n gadael y coleg?
  • Nid oes gan fy mhlentyn weithiwr cymdeithasol, ond rwy'n teimlo bod angen un arnon ni. Beth allwn ni ei wneud?

Beth yw pwrpas adolygiad CDU?

Yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (ALNET) mae Llywodraeth Cymru yn disgrifio pwrpas adolygiad CDU.

Pwrpas adolygiad yw ystyried:

  • Cynnydd y plentyn neu’r person ifanc tuag at gyflawni’r canlyniadau a fwriadwyd
  • P'un ai bod gan y plentyn neu'r person ifanc ADY o hyd ac, os felly, ydy eu hanghenion wedi newid ac os felly, beth yw'r anghenion hynny nawr, addasrwydd parhaus y canlyniadau ac, os yw'n briodol, penderfynu ar ganlyniadau newydd neu wedi eu diwygio
  • P'un ai yw'r Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol (ALP) ac unrhyw ddarpariaeth arall (sef, lle mewn sefydliad, bwyd a llety penodol) i ddiwallu anghenion rhesymol y plentyn neu’r person ifanc am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn dal yn briodol ac a oes angen darpariaeth ddysgu ychwanegol ychwanegol neu wahanol.
  • A allai fod angen i’r plentyn neu’r person ifanc dderbyn y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol mewn ysgol benodol neu sefydliad arall ac a oes angen bwyd a llety
  • Ystyried unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud ag addysg neu hyfforddiant y plentyn neu’r person ifanc sy’n effeithio ar y CDU (er enghraifft cyfnod pontio sydd ar ddod), neu yn achos person ifanc nad yw mewn ysgol a gynhelir a oes angen cynnal y CDU er mwyn bodloni anghenion rhesymol y person ifanc am addysg neu hyfforddiant
Show more

Efallai i chi hefyd hoffi