Bydd angen i'ch plentyn wneud penderfyniadau am eu dysgu a'u camau nesaf. Mae ein Cynghorwyr Gyrfa ar gael i'w helpu nhw.
Mae gan Gyrfa Cymru Gynghorwyr Gyrfa sy'n gysylltiedig â phob ysgol brif ffrwd a phob ysgol arbennig a gynhelir. Rydym hefyd yn gysylltiedig â lleoedd a fynychir gan bobl ifanc sy'n cael eu haddysgu mewn man arall. Bydd Cynghorwyr Gyrfa hefyd yn mynd i unrhyw ddigwyddiadau ysgol fel nosweithiau rhieni a nosweithiau agored.
Sut gall Gyrfa Cymru helpu
Mae ein Cynghorwyr Gyrfa yno i'ch cefnogi chi a'ch plentyn. Gallan nhw wneud hyn drwy:
Gynnig cyfweliad gyrfaoedd
Bydd eich plentyn yn cael cynnig cyfweliad gyrfa. Nid oes rhaid iddyn nhw fynd, ond dylid eu hannog.
Gall cynghorwyr gefnogi pobl ifanc ag anghenion ychwanegol i wneud ceisiadau a, lle bo angen, gallan nhw nodi anghenion cymorth parhaus ac eirioli ar ran eich plentyn.
Byddan nhw’n siarad â'ch plentyn am:
- Eu sgiliau a'u cryfderau
- Yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw
- Eu syniadau gyrfa
- Sut y gallan nhw eu helpu i gynllunio eu camau nesaf ar ôl yr ysgol
Bydd cyfweliad gyrfaoedd hefyd yn helpu'ch plentyn gyda:
- Chymhelliant - helpu'ch plentyn i baratoi ar gyfer newid a mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau posibl
- Gwneud penderfyniadau - cefnogi'ch plentyn i wneud penderfyniadau gwybodus
- Hunan ymwybyddiaeth - datblygu ymwybyddiaeth eich plentyn o'u diddordebau, eu hanghenion a'u galluoedd
- Ymwybyddiaeth o gyfle - datblygu gwybodaeth eich plentyn am y farchnad lafur
- Ceisiadau - helpu'ch plentyn i weithredu
- Cydnerthedd - cefnogaeth i reoli anawsterau a delio â chyfnodau pontio
Edrychwch ar Cyfarfod Cynghorydd Gyrfa gyda'ch plentyn i'w helpu nhw i baratoi'n well ar gyfer cyfweliad.
Mynychu cyfarfodydd cynllunio pontio
Gall Cynghorwyr Gyrfa fynychu cyfarfodydd cynllunio pontio i drafod Cynllun Datblygu Unigol eich plentyn neu eu Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig. Gallan nhw amlinellu opsiynau a chefnogi eich plentyn gyda'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Dysgwch fwy am y Cynllun Datblygu Unigol a sut y gallwch baratoi ar gyfer yr adolygiad yn Adolygiad Cynllun Datblygu Unigol.
Sut alla i gefnogi fy mhlentyn?
Mynd i gyfarfodydd adolygu a nosweithiau rhieni
Edrychwch ar rai cwestiynau defnyddiol y gallech eu gofyn mewn cyfarfod i adolygu’r Cynllun Datblygu Unigol.
Mae mynd i'r cyfarfodydd hyn yn golygu y byddwch:
- Yn meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth a'r ddarpariaeth y mae eich plentyn yn ei dderbyn ar hyn o bryd
- Yn ymwybodol o gynnydd eich plentyn yn yr ysgol ac a oes unrhyw bryderon
- Yn gallu cefnogi'ch plentyn yn llawn gyda'u camau nesaf
Archwilio gyrfaoedd ac opsiynau
Ein prif gynghorion:
- Gwnewch yn siŵr bod eich gwybodaeth yn gyfredol. Defnyddiwch Swyddi Dyfodol Cymru i ddysgu mwy am y farchnad swyddi, y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw a thueddiadau cyflogaeth
- Anogwch eich plentyn i feddwl am yr holl opsiynau sydd ar gael. Edrychwch ar Gwybod beth yw eich opsiynau gyda'ch plentyn
- Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwneud defnydd llawn o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Edrychwch ar Pwy sy'n gallu fy helpu gyda'ch plentyn
- Dangoswch sianel YouTube Fy Nyfodol iddyn nhw er mwyn gwylio fideos am wahanol yrfaoedd ac opsiynau
- Anogwch nhw i ddatblygu eu sgiliau drwy addysg, hobïau, profiad gwaith a swyddi rhan amser
- Os ydyn nhw'n nerfus am ddod i gwrdd â Chynghorydd Gyrfa, gofynnwch iddyn nhw edrych ar Beth yw cyfweliad gyrfa? a gwylio’r fideo ar y dudalen
Gall ein hoffer eich helpu chi'ch dau i ddechrau meddwl am syniadau gyrfa. Ewch i:
Opsiynau ar ôl ysgol
Archwilio’r opsiynau sydd ar gael gyda'ch plentyn. Maen nhw’n cynnwys:
Efallai i chi hefyd hoffi
Dysgwch fwy am y Cynllun Datblygu Unigol (CDU) a sut y gallwch baratoi ar gyfer yr adolygiad
Dewch i wybod am y gefnogaeth sydd ar gael gan Gyrfa Cymru i'ch helpu chi a'ch plentyn i gynllunio ar gyfer y dyfodol.