Cyfarfod rhyngot ti a Chynghorydd Gyrfa yw cyfweliad gyrfaoedd. Mae'r cyfweliad yn ymwneud â thi ac mae'r Cynghorydd Gyrfa yno i'th helpu.
Gwyliwch y fideo
Beth yw cyfweliad gyrfa
Gwyliwch y fideo i wybod beth yw cyfweliad gyrfa.
Pam ddylwn i gael cyfweliad gyrfa?
Does dim rhaid i ti gyfarfod â Chynghorydd Gyrfa ond mae hwn yn gyfle i ti:
- Siarad â rhywun am dy syniadau
- Cael gwybod am bethau nad wyt ti’n siŵr amdanyn nhw
- Gwneud yn siŵr dy fod wedi gwneud y cynlluniau cywir
Mae Cynghorydd Gyrfa yn gallu:

Siarad â thi am dy gynlluniau a'th opsiynau

Helpu ti i ddefnyddio'r hyn rwyt ti'n ei wybod i wneud penderfyniadau

Helpu ti i feddwl am yr hyn fyddai orau i ti

Helpu ti i feddwl am sut rwyt ti'n ymdopi pan nad yw pethau'n dilyn y cynllun
Beth sy'n digwydd yn y cyfweliad?
Ni fydd Cynghorydd Gyrfa yn dweud wrthyt beth ddylet ti ei wneud ond bydd yn gofyn rhai cwestiynau i ti am dy ddewisiadau. Mae hyn er mwyn dy helpu i wneud yn siŵr dy fod wedi meddwl am bopeth ac wedi gwneud y dewis cywir i ti. Bydd y Cynghorydd Gyrfa yn:

Gofyn i ti beth wyt ti eisiau siarad amdano

Gofyn i ti beth wyt ti am gael help gyda

Gwrando ar yr hyn rwyt ti’n ei ddweud

Gofyn rhai cwestiynau amdanat ti

Helpu ti i feddwl am yr hyn y mae angen i ti ei wneud ar ôl y cyfweliad
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Dewch i wybod sut y gallwch baratoi cyn cyfarfod eich Cynghorydd Gyrfa.

Edrychwch ar beth y gallwch ei wneud mewn cyfweliad gyrfa.

Dewch i wybod mwy am sut yr ydym yn rhannu gwybodaeth.