Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Paratoi i gyfarfod dy Gynghorydd Gyrfa

Mae Cynghorwyr Gyrfa yno i'th helpu i gynllunio'r hyn rwyt ti am ei wneud yn y dyfodol.

Gwyliwch y fideo

Bydda'n barod i gwrdd â dy gynghorydd gyrfa

Gwyliwch y fideo i weld beth mae ein Cynghorwyr Gyrfa yn ei ddweud am sut y gallwch chi baratoi at gyfweliad gyrfa.

Dangos trawsgrifiad

Paratoi i gyfarfod dy Gynghorydd Gyrfa

Cyn i ti gyfarfod â'th gynghorydd gallet ti:

  • Gael sgwrs gartref am dy syniadau ar gyfer y dyfodol
  • Meddwl am dy opsiynau ar ôl gadael yr ysgol
  • Meddwl amdanat ti dy hun - beth wyt ti'n ei fwynhau, beth wyt ti’n dda am ei wneud a pha help sydd angen arnat
  • Meddwl pam y gwnes di’r dewisiadau hynny
  • Meddwl am beth wyt ti eisiau gwybod mwy amdano
  • Meddwl am beth wyt ti eisiau siarad amdano gyda'th Gynghorydd Gyrfa
  • Gwneud nodyn o unrhyw gwestiynau yr hoffet ti eu gofyn

Dyma rai pethau y gallet ti fod eisiau siarad amdanyn nhw gyda dy Gynghorydd Gyrfa:

  • Gwneud penderfyniadau - sut wyt ti'n penderfynu beth sydd orau i ti?
  • Cynllunio - beth sydd angen i ti ei wneud i fynd i'r coleg/gwaith/hyfforddiant?
  • Dy ddewisiadau pan fyddi di’n gadael yr ysgol - wyt ti’n gwybod beth ydyn nhw?
  • Cefnogaeth - Pwy sy’n gallu dy helpu di?

Efallai i chi hefyd hoffi