Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Cyfarfod eich Cynghorydd Gyrfa

Efallai eich bod yn nerfus yn cwrdd â'ch Cynghorydd Gyrfa am y tro cyntaf. Mae hyn yn naturiol, ond dim byd i boeni amdano.

Beth alla i ei wneud mewn cyfweliad gyrfa?

Ofyn cwestiynau?

Gelli, rydym ni eisiau dy helpu i gael gwybod mwy am dy opsiynau er mwyn i ti allu gwneud y dewisiadau cywir.

Fod yn onest gyda'r Cynghorydd Gyrfa?

Gelli, rydym ni eisiau dy helpu felly mae angen i ti ddweud wrthym beth wyt ti wir yn ei feddwl.

Ddweud wrthych os nad ydw i'n cytuno â chi?

Gelli, fyddwn ni ddim yn dweud wrthyt ti beth i'w wneud, ond os nad wyt ti’n cytuno â beth rydym yn ei ddweud gelli di ddweud wrthym. Dy gyfweliad di yw hi.

Ddweud wrthych os nad ydw i yn deall beth rydych yn ei ddweud?

Cewch, mae'r cyfweliad yno i'ch helpu chi. Felly os ydych am i ni egluro rhywbeth neu ei ddweud eto, fe ddylech ddweud wrthym.

Dweud wrthych os nad ydw i eisiau siarad ddim mwy?

Galli, os  wyt ti’n teimlo bod angen i ti adael gelli di ddweud wrthym. Gallwn drefnu i’th weld di rywbryd eto.

Ddweud a allwch rannu gwybodaeth â phobl eraill?

Gelli, y rhan fwyaf o'r amser ni fyddwn yn dweud wrth bobl eraill beth rwyt ti wedi'i ddweud oni bai dy fod yn dweud bod hynny'n iawn. I gael gwybod pryd y byddai'n rhaid i ni rannu beth rwyt ti wedi dweud, cer i dudalen Cyfrinachedd.