Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Byddwch yn hyfforddai

Os ydych chi am gael swydd ond bod angen i chi ddysgu mwy am waith, efallai y gallwch fod yn hyfforddai gyda Twf Swyddi Cymru Plws. Mae angen i chi fod wedi gadael yr ysgol a’ch bod rhwng 16 a 19 oed.

Gwyliwch y fideo

O'r Ysgol i Hyfforddiant

(Mae'r fideo yma yn Saesneg yn unig gyda is-deitlau Cymraeg)

Gwyliwch y fideo i weld beth mae rhai pobl ifanc yn ei feddwl am hyfforddiant.

Dangos trawsgrifiad

Beth yw Twf Swyddi Cymru Plws?

Rhaglen hyfforddi yw Twf Swyddi Cymru+ sy'n eich helpu i fynd i mewn i'r byd gwaith. Mae'n cynnwys hyfforddiant a phrofiad gwaith yn rhad ac am ddim. 

Ar raglen Twf Swyddi Cymru+ cewch gyfle i ddysgu sut le yw’r byd gwaith a chael rôl swydd sydd o ddiddordeb i chi.

Byddwch yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i swydd neu hyfforddiant pellach.

Ar raglen Twf Swyddi Cymru+ Byddwch yn:

  • Derbyn anogaeth a chefnogaeth un-i-un
  • Cael lwfans neu gyflog hyfforddi tra

Gwyliwch y fideo gan Engage To Change am Twf Swyddi Cymru Plws ar YouTube.

Mae gwahanol lefelau o Twf Swyddi Cymru+. Dyma nhw:

Ymgysylltu

Mae llawer o bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol yn dechrau gyda hyn. Mae hwn ar gyfer pobl sydd:

Eicon o farc cwestiwn

Ddim yn siŵr pa fath o waith maen nhw eisiau ei wneud

Eicon o swigod siarad

Angen datblygu eu sgiliau cyn dechrau swydd

Datblygu

Mae hyn ar gyfer pobl sydd yn:

Eicon o focs hefo tic

Gwybod pa fath o waith maen nhw eisiau ei wneud

Eicon o'r rhif un

Gallu gweithio tuag at NVQ lefel 1

Cyflogaeth

Mae hyn yn ffordd o gael gwaith. Mae hyn ar gyfer pobl sydd yn:

Eicon o focs hefo tic

Gwybod pa fath o waith maen nhw eisiau ei wneud

Eicon o fag gwaith gyda bawd fyny

Barod am waith nawr


Beth alla i ei wneud ar Twf Swyddi Cymru Plws?

Ar raglen Twf Swyddi Cymru+ gallech chi:

Eicon o siswrn a crib triniwr gwallt

Roi cynnig ar wahanol fath o swyddi i ddarganfod beth sy’n addas i chi

Eicon o gyfrifiannell a swigen siarad

Gario ymlaen hefo Mathemateg a Saesneg

Eicon o dystysgrif

Weithio tuag at ennill cymwysterau

Eicon o gar hefo sbaner

Ddysgu sgiliau newydd


Faint o amser fydda i'n ei dreulio ar Twf Swyddi Cymru Plws?

  • Ar y lefel Ymgysylltu byddech fel arfer yn gwneud 30 awr neu fwy bob wythnos
  • Ar y lefel Datblygu byddech fel arfer yn gwneud 30 awr neu fwy bob wythnos
  • Ar y lefel Cyflogaeth byddech fel arfer yn gwneud 30 awr neu fwy bob wythnos

Faint fydda i'n cael fy nhalu?

  • Ar y lefel Ymgysylltu, cewch chi £60 yr wythnos os ydych chi’n gweithio 21 awr. Os ydych chi’n gweithio llai o oriau byddech chi’n cael llai o dâl  
  • Ar y lefel Datblygu byddech chi’n cael £60 yr wythnos
  • Ar y lefel Cyflogaeth byddech chi’n cael £60 yr wythnos wrth i chi chwilio am swydd ac yna cyflog sy’n talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol pan gewch chi swydd
  • Efallai y gallwch hawlio rhywfaint o arian yn ôl am gostau teithio

Fydda i’n cael cymorth ar Twf Swyddi Cymru Plws?

Cyn i chi fynd ar raglen Twf Swyddi Cymru+, mae'n syniad da cyfarfod â Chynghorydd Gyrfa a fyddai'n siarad â chi am y math o gymorth sydd ei angen arnoch.


Sut alla i gael mwy o wybodaeth am raglen Twf Swyddi Cymru Plws?

  • Siaradwch â’ch Cynghorydd Gyrfa
  • Edrychwch ar wefannau darparwyr hyfforddiant
  • Ewch i weld darparwyr hyfforddiant

Gwyliwch y fideo 

Dysgwyr Twf Swyddi Cymru+

Clywed gan ddysgwr yn siarad am Twf Swyddi Cymru+.

Dangos trawsgrifiad

BSL Dysgwyr Twf Swyddi Cymru+, Laney

Gwyliwch fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o Laney yn siarad am ei phrofiad.

Dangos trawsgrifiad

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Mynd ar hyfforddiant

Dewch i wybod pa gamau i'w cymryd ar wahanol adegau o'r flwyddyn os ydych chi am fynd ar hyfforddiant.