Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Mynd ar hyfforddiant

Os mai mynd ar hyfforddiant yw'r hyn yr hoffech chi ei wneud ar ôl gadael yr ysgol, mae'n rhaid i chi gynllunio ymlaen llaw.

Amseroedd pwysig yn ystod y flwyddyn

Medi i Rhagfyr
Gwybod mwy am hyfforddiant
  1. Siarad gyda eich rhieni / gofalwyr am adael yr ysgol
     
  2. Gofyn i weld Cynghorydd Gyrfa yn yr ysgol i wybod mwy am hyfforddiant
     
  3. Gwybod mwy am hyfforddiant trwy edrych ar Byddwch yn hyfforddai 

Prif awgrym

Ceisiwch wybod cymaint ag y gallwch am eich holl opsiynau a meddyliwch am yr hyn sy'n fwyaf addas i chi

Cynghorydd Gyrfa, Gyrfa Cymru
Show more
Ionawr i Mawrth
Siarad hefo Cynghorydd Gyrfa

Darganfyddwch pa ddarparwyr hyfforddiant sy'n agos atoch chi. Gall eich Cynghorydd Gyrfa eich helpu gyda hyn.

Edrychwch ar wefannau'r darparwyr hyfforddiant i wybod mwy am yr hyn y gallant ei gynnig.

Siaradwch gyda'ch Cynghorydd Gyrfa os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Prif awgrym

Gofynnwch gwestiynau! Meddyliwch am yr hyn rydych chi eisiau ei wybod am hyfforddiant. Gallwch ysgrifennu eich cwestiynau i lawr i atgoffa'ch hun.

Cynghorydd Gyrfa
Show more
Ebrill i Mehefin
Byddwch yn onest am y gefnogaeth y byddwch ei angen

Gall eich Cynghorydd Gyrfa eich helpu i drefnu ymweliadau i ddarganfod mwy am y gwahanol ddarparwyr hyfforddiant. Gall y Cynghorydd Gyrfa:

  • Gyfarfod â chi i siarad am unrhyw gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnoch wrth fynd ar hyfforddiant
  • Drefnu gyfweliad i chi gyda darparwyr hyfforddiant

Prif awgrym

Byddwch yn onest. Gwnewch yn siwr bod y darparwr hyfforddiant yn gwybod am y gefnogaeth y bydd ei hangen arnoch. Mae'n bwysig eu bod yn gwybod fel y gallent eich helpu chi.

Cynghorydd Gyrfa
Show more
Gorffennaf
Dechrau ar hyfforddiant

Gallwch chi ddechrau hyfforddi cyn gynted ag y byddwch chi'n gorffen Blwyddyn 11 (hwn fydd y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin) felly gallwch chi ddechrau hyfforddi o fis Gorffennaf

Prif awgrym

Os oes angen mwy o help arnoch, gallwch gysylltu â Gyrfa Cymru o hyd. Cysylltwch â ni ar sgwrs fyw, e-bost, dros y ffôn neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cynghorydd Gyrfa
Show more