Os ydych chi am gael swydd ond bod angen i chi ddysgu mwy am waith, efallai y gallwch fod yn hyfforddai gyda Twf Swyddi Cymru Plws. Mae angen i chi fod wedi gadael yr ysgol a’ch bod rhwng 16 a 19 oed.
Gwyliwch y fideo
O'r Ysgol i Hyfforddiant
(Mae'r fideo yma yn Saesneg yn unig gyda is-deitlau Cymraeg)
Gwyliwch y fideo i weld beth mae rhai pobl ifanc yn ei feddwl am hyfforddiant.
Beth yw Twf Swyddi Cymru Plws?
Rhaglen hyfforddi yw Twf Swyddi Cymru+ sy'n eich helpu i fynd i mewn i'r byd gwaith. Mae'n cynnwys hyfforddiant a phrofiad gwaith yn rhad ac am ddim.
Ar raglen Twf Swyddi Cymru+ cewch gyfle i ddysgu sut le yw’r byd gwaith a chael rôl swydd sydd o ddiddordeb i chi.
Byddwch yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i swydd neu hyfforddiant pellach.
Ar raglen Twf Swyddi Cymru+ Byddwch yn:
- Derbyn anogaeth a chefnogaeth un-i-un
- Cael lwfans neu gyflog hyfforddi tra
Gwyliwch y fideo gan Engage To Change am Twf Swyddi Cymru Plws ar YouTube.
Mae gwahanol lefelau o Twf Swyddi Cymru+. Dyma nhw:
Ymgysylltu
Mae llawer o bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol yn dechrau gyda hyn. Mae hwn ar gyfer pobl sydd:

Ddim yn siŵr pa fath o waith maen nhw eisiau ei wneud

Angen datblygu eu sgiliau cyn dechrau swydd
Datblygu
Mae hyn ar gyfer pobl sydd yn:

Gwybod pa fath o waith maen nhw eisiau ei wneud

Gallu gweithio tuag at NVQ lefel 1
Cyflogaeth
Mae hyn yn ffordd o gael gwaith. Mae hyn ar gyfer pobl sydd yn:

Gwybod pa fath o waith maen nhw eisiau ei wneud

Barod am waith nawr
Beth alla i ei wneud ar Twf Swyddi Cymru Plws?
Ar raglen Twf Swyddi Cymru+ gallech chi:

Roi cynnig ar wahanol fath o swyddi i ddarganfod beth sy’n addas i chi

Gario ymlaen hefo Mathemateg a Saesneg

Weithio tuag at ennill cymwysterau

Ddysgu sgiliau newydd
Faint o amser fydda i'n ei dreulio ar Twf Swyddi Cymru Plws?
- Ar y lefel Ymgysylltu byddech fel arfer yn gwneud 30 awr neu fwy bob wythnos
- Ar y lefel Datblygu byddech fel arfer yn gwneud 30 awr neu fwy bob wythnos
- Ar y lefel Cyflogaeth byddech fel arfer yn gwneud 30 awr neu fwy bob wythnos
Faint fydda i'n cael fy nhalu?
- Ar y lefel Ymgysylltu, cewch chi £60 yr wythnos os ydych chi’n gweithio 21 awr. Os ydych chi’n gweithio llai o oriau byddech chi’n cael llai o dâl
- Ar y lefel Datblygu byddech chi’n cael £60 yr wythnos
- Ar y lefel Cyflogaeth byddech chi’n cael £60 yr wythnos wrth i chi chwilio am swydd ac yna cyflog sy’n talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol pan gewch chi swydd
- Efallai y gallwch hawlio rhywfaint o arian yn ôl am gostau teithio
Fydda i’n cael cymorth ar Twf Swyddi Cymru Plws?
Cyn i chi fynd ar raglen Twf Swyddi Cymru+, mae'n syniad da cyfarfod â Chynghorydd Gyrfa a fyddai'n siarad â chi am y math o gymorth sydd ei angen arnoch.
Sut alla i gael mwy o wybodaeth am raglen Twf Swyddi Cymru Plws?
- Siaradwch â’ch Cynghorydd Gyrfa
- Edrychwch ar wefannau darparwyr hyfforddiant
- Ewch i weld darparwyr hyfforddiant
Gwyliwch y fideo
Dysgwyr Twf Swyddi Cymru+
Clywed gan ddysgwr yn siarad am Twf Swyddi Cymru+.
BSL Dysgwyr Twf Swyddi Cymru+, Laney
Gwyliwch fersiwn Iaith Arwyddion Prydain o Laney yn siarad am ei phrofiad.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Edrychwch ar y camau y mae person ifanc yn eu cymryd i'w helpu gynllunio ar gyfer mynd ar hyfforddiant.

Dewch i wybod pa gamau i'w cymryd ar wahanol adegau o'r flwyddyn os ydych chi am fynd ar hyfforddiant.