Pan ydych yn 16, gallwch chwilio am waith os ydych yn barod. Os ydych yn gwybod beth ydych chi eisiau ei wneud, gallwch wneud cais am swydd ar ôl i chi adael yr ysgol.
Gwyliwch y fideo
O'r Ysgol i Waith
Gwyliwch y fideo i weld beth mae rhai pobl ifanc yn ei feddwl am waith.
Beth fyddwn yn ei wneud mewn gwaith?
Mewn gwaith byddwch yn:
- Defnyddio'r sgiliau sydd gennych yn barod
- Dysgu sgiliau newydd
- Ennill arian
- Cyfarfod pobl newydd
Faint o amser fyddwn i'n ei dreulio yn gweithio?

Gallwch wneud cais am swyddi sy'n amser llawn (tua 37 awr yr wythnos)

Gallwch wneud cais am swyddi rhan-amser (gweithio am ran o ddiwrnod, neu ran o wythnos)

Mewn rhai swyddi, bydd rhaid i chi weithio dros y penwythnos.

Efallai y bydd angen i chi weithio oriau shifft (gweithio yn ystod y nos yn lle gweithio yn ystod y dydd)
Pa gymorth fydda i’n ei gael yn y gwaith?

Gall eich cyflogwr wneud newidiadau i’ch helpu chi, er enghraifft, yr oriau rydych yn ei weithio a'r gwaith rydych chi'n ei wneud

Mae’r cynllun Mynediad at Waith yn rhoi grantiau i helpu pobl i brynu offer. Gall hefyd roi cyngor i’ch cyflogwr ar sut i’ch helpu chi. Edrychwch ar Mynediad at Waith ar gwefan gov.uk i wybod mwy

Efallai i chi gael help gan Asiantaethau sy'n cynnig Cefnogaeth Cyflogaeth. Fe allent eich helpu i ddod o hyd i waith ac i ddysgu'r sgiliau rydych eu hangen i setlo mewn i swydd. Gwyliwch y fideo gan Engage To Change ar YouTube i wybod mwy am Cefnogaeth Cyflogaeth a Interniaethau â Chymorth.

Efallai y bydd eich cyflogwr yn gallu cael arian i helpu i dalu eich cyflog. Efallai y byddwch yn gallu cael arian i helpu i dalu am y ffordd rydych yn teithio i’r gwaith
Dolenni defnyddiol Asiantaethau sy'n cynnig Cymorth Cyflogaeth
(Mae rhai o'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)
Gwybod mwy am wahanol swyddi
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Edrychwch ar y camau y mae person ifanc yn ei cymryd i'w helpu i gynllunio i ddechrau gweithio.

Dewch i wybod pa gamau i'w cymryd ar wahanol adegau o'r flwyddyn os ydych chi am ddod o hyd i a chychwyn gweithio.

Dewch i wybod sut i ddod o hyd i swydd a gwneud cais amdani, cael help gyda CVs a ffurflenni cais a gwybod eich hawliau yn y gwaith.

Dewch i wybod beth mae hunangyflogedig a gweithio i chi'ch hun yn ei olygu.