Os mai mynd cael swydd yw'r hyn yr hoffech chi ei wneud ar ôl gadael yr ysgol, mae'n rhaid i chi gynllunio ymlaen llaw.
Amseroedd pwysig yn ystod y flwyddyn
- Siarad gyda eich rhieni / gofalwyr am adael yr ysgol
- Gofyn i weld Cynghorydd Gyrfa yn yr ysgol i wybod mwy am hyfforddiant
- Dewch i wybod mwy am sut i chwilio am waith ar Chwilio am waith
Prif awgrym
Ceisiwch gael swydd neu leoliad gwirfoddoli rhan amser. Bydd hyn yn ffordd dda i wybod mwy am y byd gwaith.
Cynghorydd Gyrfa
- Gwnewch yn siwr bod gennych CV yn barod i wneud cais am swyddi. Edrychwch ar y dudalen Ysgrifennu CV i gael mwy o wybodaeth
- Edrychwch ar wefannau swyddi i weld pa fath o swyddi sydd ar gael. Edrychwch ar Sut ydw i'n dod o hyd i swydd? am fwy o wybodaeth
- Dewch i wybod mwy am Cefnogaeth Cyflogaeth a Mynediad at Waith i weld os y gallen nhw eich helpu. Gall eich Cynghorydd Gyrfa siarad mwy am hyn gyda chi. Edrychwch ar Dechrau gweithio i wybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael mewn gwaith
Prif awgrym
Gofynnwch i deulu neu athro i edrych ar eich CV. Gallent edrych am gamsillafu ac awgrymu pethau i'w hychwanegu
Cynghorydd Gyrfa
- Mae gan Gyrfa Cymru Gynghorwyr Gyrfa Cymru'n Gweithio sy'n helpu pobl i chwilio am waith pan fyddant wedi gadael yr ysgol. Byddant yn cysylltu â chi i weld a oes angen cefnogaeth arnoch
- Anfonwch eich CV allan i gwmniau
- Gwnewch cais am swyddi ar-lein
- Ewch i gwmniau lleol yn eich ardal i ofyn a oes ganddyn nhw swyddi gwag
Dewch i wybod mwy am chwilio a gwneud cais am swyddi ar Chwilio am waith.
Prif awgrym
Ysgrifennwch lythyr i fynd gyda'ch CV. Mae hyn yn helpu'r cyflogwyr wybod pa swydd rydych chi yn ymgeisio amdani. Dewch i wybod mwy am Ysgrifennu CV.
Cynghorydd Gyrfa
- Cysylltwch gyda Gyrfa Cymru os yr hoffech chi siarad gyda un o'n Anogwyr Cyflogadwyedd fydd yn gallu eich helpu i chwilio am waith
Prif awgrym
Gall Gyrfa Cymru eich helpu i chwilio am waith, eich cefnogi i ysgrifennu CV a ffurflen gais a dweud wrthych am asiantaethau eraill fydd yn gallu eich helpu.
Gyrfa Cymru