Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Sut ydw i’n dod o hyd i swydd?

Mae llawer o ffyrdd o chwilio am swydd. Beth am edrych ar rai o'r ffyrdd y gallwch chi ddechrau chwilio.

Gwefannau swyddi

Mae Gyrfa Cymru wedi rhoi rhestr o wefannau i chi ddechrau chwilio am swyddi. Edrychwch ar Gwefannau Swyddi.

Defnyddiwch Chwilio am Swydd i weld y swyddi sy'n fyw nawr yng Nghymru.


Edrychwch ar wefannau eraill

Graffeg o dablet hefo llaw yn defnyddio'r sgrin

Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr mawr yn dal i ddefnyddio eu gwefannau eu hunain i adael i bobl wybod am swyddi. Os ydych chi’n gwybod ble yr hoffech weithio, edrychwch ar wefan y cyflogwr. Edrychwch ar Cyflogwyr yn recriwtio nawr am restr o gyflogwyr sy'n hysbysebu swyddi.


Asiantaethau Recriwtio

Graffeg o CV hefo chwyddwydr

Mae asiantaethau recriwtio yn gallu helpu pobl i ddod o hyd i swyddi. Gallech chi ymuno ag asiantaeth recriwtio. Byddan nhw’n dod i wybod amdanoch chi ac yn gweld pa swyddi sy’n addas i’ch sgiliau.

 

Edrychwch ar agency central i gael rhestr o asiantaethau recriwtio yng Nghymru. Gall eich Cynghorydd Gyrfa eich helpu hefyd i ddod o hyd i asiantaethau recriwtio.


Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol

Pethau i feddwl amdanynt pan rydych yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol:

  • Edrychwch ar eich gosodiadau preifatrwydd. Ydych chi am i bawb weld eich proffil?
  • Edrychwch dros eich hanes ffrydio, negeseuon, trydariadau a lluniau. A fyddech chi’n hapus i gyflogwr eu gweld?
  • Gofynnwch i’ch rhieni neu athrawon edrych ar eich cyfrif os nad ydych yn siwr a yw’n iawn

Esiamplau o'r cyfryngau cymdeithasol - Facebook ac X

Facebook

When using Facebook: 

  • Gallwch hoffi tudalen Facebook cyflogwr. Bydd hyn yn gadael i chi wybod a oes ganddynt swydd
  • Gallwch ddefnyddio Facebook i ddweud wrth bobl eich bod yn chwilio am waith
  • Cofiwch, os ydych yn defnyddio Facebook, efallai y bydd cyflogwyr yn edrych ar eich proffil Facebook
Twitter

Pan yn defnyddio X: 

  • Gallwch ddilyn cyfrif X sydd gan gyflogwr. Bydd hyn yn ymddangos ar eich ffrwd a byddwch yn gweld os ydynt yn hysbysebu swyddi
  • Gallwch chwilio drwy X hefyd gan ddefnyddio geiriau allweddol fel ‘swyddi’ neu 'jobs' i gael gwybod a oes swyddi
  • Cofiwch, os ydych yn defnyddio X, efallai y bydd cyflogwyr yn edrych ar eich ffrwd X

Ffyrdd eraill o ddod o hyd i swydd

Eicon o bapur newydd

Edrych yn y papurau newydd lleol

Eicon o fag gwaith a chwyddwydr

Ewch i'r Ganolfan Byd Gwaith

Eicon o siop

Edrych mewn ffenestri siopau

Eicon o swigod siarad

Gofynnwch i bobl rydych chi'n eu hadnabod

Graffeg o gyflogwr

Cysylltwch hefo cyflogwyr dros y ffôn neu mynd i'w gweld


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Byddwch yn brentis

Dewch i wybod beth mae prentisiaeth yn ei olygu a sut y gallwch ddod o hyd i brentisiaeth.