Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Byddwch yn brentis

Prentisiaethau yng Nghymru yw swyddi sy’n gadael i chi weithio tuag at ennill cymhwyster a chael eich talu ar yr un pryd.

Gwyliwch y fideo

O'r Ysgol i Brentisiaeth

Gwyliwch y fideo i weld beth sydd gan berson ifanc i'w ddweud am ei brentisiaeth.

Dangos trawsgrifiad

Lefelau Prentisiaeth

Mae tair lefel o Brentisiaeth:

Eicon o rif 2

Prentisiaeth Sylfaen - byddech yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 2 (yr un lefel â TGAU)

Eicon o rif 3

Prentisiaeth – byddech yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 3 (yr un lefel â Safon Uwch/Lefel A)

Eicon o rif 4

Prentisiaeth Uwch / Prentisiaeth Gradd – byddech yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 4 ac uwch. Gallai hyn fod yn HNC/HND neu’n radd


Beth sydd ei angen arnaf i wneud Prentisiaeth?

Eicon o berson ifanc

Mae’n rhaid i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn

Eicon o sgrin cyfrifiadur hefo saeth llygoed ar y sgrin

Mae’n rhaid i chi wneud cais am Brentisiaeth fel unrhyw swydd arall. Bydd y cyflogwr yn dweud pa gymwysterau a sgiliau fydd eu hangen arnoch chi

Eicon o CV

Mae llawer o bobl eisiau gwneud Prentisiaeth. Bydd angen i chi gael CV da a ffurflen gais dda pan fyddwch yn gwneud cais


Pa mor hir mae Prentisiaeth yn para?

Eicon o galendar hefo rhifau 2-3

Fel arfer, mae Prentisiaethau yn para 2 – 3 blynedd ond bydd prentisiaethau lefel uwch yn cymryd mwy o amser


Pa gymorth y byddaf yn ei gael yn ystod Prentisiaeth?

Ar Brentisiaeth:

  • Os oes gennych anabledd, efallai y cewch gymorth ar gyfer offer a thrafnidiaeth
  • Os bydd angen, dylai eich cyflogwr newid rhannau o’ch swydd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gallu eu gwneud
  • Os ydych yn y coleg fel rhan o’ch prentisiaeth, gallan nhw gefnogi eich dysgu

Gwyliwch fideo gan Engage To Change ar YouTube am fwy o wybodaeth am Brentisiaethau.


A fyddaf yn cael fy nhalu ar Brentisiaeth?

Mae isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfer prentisiaid ond efallai y bydd cyflogwyr yn talu mwy na hyn. Dysgwch fwy am yr isafswm cyflog cenedlaethol i brentisiaid ar gov.uk (dolen Saesneg).


Sut y gallaf ddod o hyd i Brentisiaeth?

Mae 3 prif ffordd o ddod o hyd i gyfleoedd prentisiaeth:

  1. Chwiliwch am brentisiaethau ar Chwilio am Brentisiaethau
  2. Dewch o hyd i gyflogwyr sy’n cynnig prentisiaethau
  3. Ewch ar wefannau cyflogwyr
  4. Gwybod mwy am Brentisiaethau Cynhwysol: Cynllun Gweithredu ar Anabledd ar gyfer Prentisiaethau 2018-2021