Rydyn wedi gweithio gyda chyflogwyr ac athrawon i ddatblygu cyfres o heriau Gwaith Mewn Ffocws. Mae pob her yn gysylltiedig â Maes Dysgu yn y cwricwlwm.
Mae’r heriau’n helpu i ymgorffori addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn y cwricwlwm. Maen nhw hefyd yn helpu i sicrhau bod ymgysylltu â chyflogwyr yn ystyrlon.
Heriau i bwy
Gallwch ddefnyddio'r heriau gyda holl ddysgwyr blwyddyn 8 a 9. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr mwy abl a thalentog (MAT) a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Rôl cyflogwyr
Mae cyflogwyr ar draws Cymru wedi cydweithio â ni i ddatblygu'r heriau. Mae'r heriau'n rhoi cipolwg i ddysgwyr ar ddiwydiannau sy'n bwysig yng Nghymru.
Mae'r diwydiannau hyn yn hanfodol i economi Cymru ac yn cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous ar gyfer y dyfodol.
Sut mae dysgwyr yn elwa
Yn ystod yr heriau mae dysgwyr yn cwblhau tasgau'r byd go iawn. Byddan nhw’n datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd hanfodol gan gynnwys llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.
Mae'r heriau hefyd yn pwysleisio themâu pwysig, sy'n cynnwys:
- Menter
- Meddwl yn greadigol
- Cyfrifoldeb amgylcheddol a chymdeithasol
- Meddwl yn feirniadol
- Datrys problemau
- Gwneud penderfyniadau
Yr heriau
Mae gan bob her ffocws neu thema sector ac fe'i datblygwyd mewn partneriaeth â chyflogwr.
Bydd her yn cymryd 5 gwers i'w chyflwyno a'i chwblhau. Byddwn yn rhoi canllaw athrawon a chyflwyniad PowerPoint i chi i weithio drwy'r her gyda'ch dysgwyr.
Mathemateg a Rhifedd
Y ffocws a’r cyflogwr:
- Lled-ddargludyddion cyfansawdd - gwneuthurwr lled-ddargludyddion Vishay
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Y ffocws a’r cyflogwyr:
- FinTech (technoleg ariannol) - Banc Starling a FinTech Cymru
- Gweithgynhyrchu gwerth uchel - Toyota
- Adnewyddadwy – RWE Renewables
- Diogelwch seiber - Cyber First ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Iechyd a Lles
Y ffocws a’r cyflogwr:
- Y Gymraeg yn y gweithle - Cyngor Gwynedd
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Y ffocws a’r cyflogwr:
- Twristiaeth - Celtic Manor a Croeso Cymru
Y Dyniaethau
Y ffocws a’r cyflogwyr:
- Bwyd a diod - Selwyn’s Seafoods a Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, Mentera
- Gwyddorau bywyd - Gwasanaeth Gwaed Cymru
Defnyddio’r heriau
I gael gwybod mwy am gyflawni her Gwaith Mewn Ffocws yn eich ysgol, cysylltwch â'ch Cynghorydd Cyswllt Busnes neu anfonwch e-bost aton ni.
Adnoddau i gefnogi
Gallwch ddefnyddio ein Swyddi Dyfodol Cymru gyda dysgwyr i archwilio rhanbarthau a diwydiannau Cymru. Maen nhw'n gallu dod o hyd i’r swyddi y gallen nhw eu gwneud, nawr ac yn y dyfodol.